Swyddfa Eiddo Deallusol: Cyflogwr Mawr y Flwyddyn

Roedd y Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd yn cael anhawster canfod digon o arbenigwyr technoleg gwybodaeth i ymdopi â’r holl newidiadau yr oeddent yn eu hwynebu. Yr ateb oedd datblygu rhaglen brentisiaethau benodol fel eu bod yn gallu recriwtio, hyfforddi a chadw pobl ifanc oedd â sgiliau TG a'r sgiliau eraill angenrheidiol. Mae’r darparwr hyfforddiant Acorn Learning Solutions yn cyflenwi fframweithiau prentisiaethau mewn Gweinyddu Busnes Lefel 2 a 3, Cyllid AAT Lefel 2 a 3, a Chymhwysedd Proffesiynol mewn TG a Thelathrebu Lefel 3.

Lansiwyd y rhaglen yn 2014 ac, ers hynny, recriwtiwyd 32 o brentisiaid ac mae’r sefydliad yn cyflogi 19 ar hyn o bryd. Mae’r holl brentisiaid sydd wedi cwblhau’r rhaglen wedi mynd ymlaen i gael gwaith parhaol gyda’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), adrannau eraill yn y llywodraeth neu yn y sector preifat.

Mae'r IPO yn cyflogi dros 1,150 o bobl, yng Nghasnewydd yn bennaf. Mae’n canolbwyntio ar hybu cyflogaeth ymhlith pobl leol yr ardal ac mae’n cydweithio â cholegau ac ysgolion lleol wrth recriwtio., Y bwriad yw cymryd 20 o brentisiaid yr hydref hwn.

Dywedodd Louise Wheten o Acorn Learning Solutions: "Ein gweledigaeth ar gyfer yr IPO yw parhau i ddatblygu ac ehangu’r rhaglenni prentisiaethau.”