Tata Steel
Prentisiaethau’n allweddol i lwyddiant cynhyrchydd dur mwyaf Cymru.
Mae cynhyrchydd dur mwya’r genedl yn cefnogi Wythnos Prentisiaethau Cymru, wrth gydnabod rôl allweddol prentisiaid yn datrys prinder sgiliau.
Dechreuodd Tata Steel gynnig prentisiaethau i’w weithwyr ’nôl yn y 1950au, fel ffordd o sicrhau bod gan ei weithlu y sgiliau a’r cymwysterau angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth o safon byd.
Mae Tata Steel yn cyflogi bron i 260 o brentisiaid ledled Cymru ac yn cynnal wyth cynllun prentisiaeth gwahanol ar draws ei bedwar safle – Port Talbot, Llanelli, Caerffili a Chasnewydd. Mae prentisiaethau Tata Steel yn amrywio o beirianneg fecanyddol, drydanol, gweithgynhyrchu i wyddorau labordai. Mae sawl prentis yn gweithio yn y meysydd ariannol a chwsmeriaid hefyd.
Cynhelir Wythnos Prentisiaethau Cymru 2019 rhwng 4 ac 8 Mawrth. Mae’n dathlu effaith gadarnhaol prentisiaethau ar unigolion a busnesau fel ei gilydd, yn ogystal â chydnabod y sgiliau a’r doniau y gall prentisiaid eu cyfrannu at y gweithle.
Meddai Mathew Davies, Cynghorydd Hyfforddiant Technegol Tata Steel: “Rydyn ni’n recriwtio prentisiaid gan ei bod hi’n anodd dod o hyd i’r doniau sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant cymhleth hwn. Mae ein rhaglenni prentisiaeth yn sicrhau bod gennym gronfa barod o dalentau y gallwn eu codi drwy’r rhengoedd i rolau uwch weithredwyr ac arweinwyr tîm."
“Mae ein prentisiaid ni’n gweithio ar batrwm cylch ledled yr holl fusnes ac yn cael cyfle i brofi amrywiaeth o sgiliau a phrosesau ar draws pob adran.”
Gyda chyfnod ymgeisio eleni eisoes wedi agor, mae Tata Steel yn disgwyl i gant a mwy o brentisiaid newydd gofrestru ar ei wyth rhaglen ledled y wlad.
Ychwanegodd Mathew: “Mae prentisiaid yn rhan annatod o DNA Tata Steel – yn rhan o ddiwylliant y cwmni. Mae aelodau eraill o’r staff yn gwerthfawrogi cael prentisiaid o gwmpas y lle, oherwydd gallant drosglwyddo eu gwybodaeth ymlaen i’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a dysgu oddi wrthyn nhw hefyd. Mae rhai prentisiaid yn treulio rhywfaint o’u hamser yn y coleg (fesul diwrnod neu floc) ac eraill wedi’u lleoli yn yr academi hyfforddiant sy’n defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i ddysgu’r technegau diweddaraf i’w cyflwyno i’r safle.”
Mae tua 94% yn llwyddo i gwblhau rhaglenni prentisiaeth Tata Steel yng Nghymru, ac oddeutu 85% o brentisiaid yn parhau gyda’r cwmni bum mlynedd ar ôl graddio.
Dywed Sally Hughes, prentis labordy technegol a enillodd deitl ‘Prentis y Flwyddyn’ Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018, fod prentisiaeth Tata Steel wedi rhoi profiad amhrisiadwy iddi o fyd gwaith.
Meddai’r ferch 19 oed o Bort Talbot: “Mae pob diwrnod yn wahanol, a dw i’n dysgu rhywbeth newydd bob tro. Mae gweithio mewn amgylchedd go iawn wedi rhoi cyfle i mi ddefnyddio’r hyn a ddysgais yn y coleg a’i roi ar waith – mae mor fanteisiol i fy natblygiad i."
“Bellach, dw i wedi cael cynnig swydd gyda’r tîm technegol lle dw i’n gweithio tuag at brentisiaeth HNC Lefel 4 mewn Gwyddorau Cemegol. Dw i ar secondiad i weithio shifftiau pedwar diwrnod o waith a phedwar diwrnod i ffwrdd, er mwyn gwella fy ngwybodaeth, ac yn treulio undydd o’r wythnos yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
“Dw i wrth fy modd gyda ’mhrentisiaeth, ac yn gobeithio camu ymlaen mor uchel â phosib o fewn y cwmni.”
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae’n amlwg bod prentisiaethau yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr, nid yn unig i unigolion ond hefyd y llu o fusnesau â bylchau neu brinder sgiliau. Trwy Wythnos Prentisiaethau Cymru, cawn ddathlu hyfforddiant galwedigaethol a’r holl bobl hynny sy’n elwa ar brentisiaethau ar hyn o bryd."
“Mae prentisiaethau’n ffordd wych o deilwra set sgiliau’r gweithiwr er mwyn ateb gofynion y busnes yn ofalus a meithrin doniau Cymru gyfan. Edrychaf ymlaen at barhau i helpu busnesau a phrentisiaid sy’n gobeithio elwa ar yr elfen hollbwysig hon o’r economi.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
I weld sut allai’ch busnes elwa ar recriwtio prentis, ewch i’r Porth Sgiliau i Fusnes yn https://busnescymru.llyw.cymru/porthsgiliau/prentisiaethau neu ffoniwch 03000 6 03000.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cofiwch hefyd am www.facebook.com/apprenticeshipscymru neu @apprenticewales ar Twitter, a dilynwch yr hanes trwy ddilyn hashnod #WPCymru.
Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Mae'r Rhaglen Brentisiaethau ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Rhestr Wirio Rhaglen | Cronfeydd yr UE yng Nghymru | |
---|---|---|
Ardal Cyflenwi | Cymru Gyfan | |
Statws | Yn fyw | |
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? | Ydi | |
Arweinydd y Rhaglen |
Llywodraeth Cymru |