Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu
Os ydych yn gweithredu ar ben uchaf y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu yng Nghymru, bydd eich llwyddiant parhaol yn dibynnu ar ddau ffactor allweddol: yn gyntaf, eich gallu i arwain y ffordd gydag ymchwil a datblygu cynnyrch arloesol; yn ail, eich llwyddiant o ran denu pobl o galibr uchel a’r gallu i yrru eich gwaith ymchwil hanfodol ymlaen.
Sefydlwyd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu i ddarparu i fusnesau blaenllaw fel eich busnes chi unigolion o'r radd uchaf sydd wedi eu hyfforddi hyd lefel Meistr a Doethurol, ac sydd a'r sgiliau i ddod yn arweinyddion y sector yn y dyfodol.
Y manteision i fusnesau
Bydd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu’n cefnogi 227 o'r unigolion mwyaf dawnus yn y sector ac yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau technegol, arweinyddiaeth a rheolaeth sy'n hanfodol i lwyddiant busnesau deunyddiau a gweithgynhyrchu gwerth uchel yng Nghymru.
Yn rhan o'r rhaglen, bydd y canlynol ar gael i'ch busnes:
- Gwaith ymchwil a datblygu diwydiannol sy'n flaenllaw yn y sector wedi ei gymorthdalu.
- Cyfleusterau ac arbenigedd o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe, canolfan academaidd adnabyddus ar gyfer ymchwil deunyddiau a gweithgynhyrchu.
- Ffynhonnell gyson o dalent ymchwil o'r radd uchaf i'ch busnes.
Mae’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu’n cynnig ffordd hynod o hyblyg a chost-effeithiol o wneud gwaith ymchwil, ac oherwydd y byddwch yn dod i adnabod yr ôl-raddedigion yn dda yn ystod eu hamser gyda'ch busnes, byddwch hefyd yn cael syniad clir o'u galluoedd a'u gwerth hirdymor fel gweithwyr yn y dyfodol.
Pa gymorth sydd ar gael i chi?
Bydd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu'n talu cyflog blynyddol i’r ymchwilydd o £20,000 Doethuriaeth / £12,500 Meistr. Rhaid i'ch cwmni gyfrannu’n flynyddol, £10,500 Doethuriaeth / £4,345 Meistr. Bydd cyfle i chi weithio gyda nhw am flwyddyn neu am bedair blynedd, ond does dim rhwymedigaeth i gyflogi'r myfyriwr pan fydd y gwaith ymchwil ar ben, na chwaith i'r myfyriwr gymryd swydd gyda'ch cwmni.
Eich ymrwymiad
I gymryd rhan, mae angen i'ch busnes gyflwyno cynigion am brosiect ymchwil un flwyddyn ar lefel Meistr, neu pedair blynedd ar lefel Doethuriaeth, sydd wedi'i gysylltu'n glir a chynhyrchion, prosesau neu farchnadoedd eich cwmni.
Bydd rhaid i'r ymchwilydd ôl-raddedig feddu ar Radd 2:1 o leiaf mewn gwyddoniaeth neu beirianneg, a chael eu goruchwylio gan academydd o Brifysgol Abertawe. Rhaid i chi hefyd ddynodi cynrychiolydd o'ch busnes i ddod yn rheolwr llinell a mentor i'r myfyriwr.
Yw eich busnes yn gymwys?
Gall unrhyw fusnes sy'n gweithredu yng Nghymru cyd-ariannu Doethuriaeth mewn Peirianneg neu Radd Meistr mewn ymchwil, ar yr amod ein bod yn fodlon y bydd gwaith ymchwil yn dod a manteision cyffyrddadwy i lwyddiant tymor hir y cwmni. Rhaid i fyfyrwyr sydd wedi eu cofrestru gydag Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu hefyd gael cyfeiriad preswyl yn yr ardal Cydgyfeirio Cymru a dal pasbort y DU neu hawl parhaol i aros.
Galwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Ariennir yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Rhestr Wirio Rhaglen | Cronfeydd yr UE yng Nghymru | |
---|---|---|
Ardal Cyflenwi | Cymru Gyfan | |
Statws | Yn fyw | |
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? | Ydi | |
Arweinydd y Rhaglen |
Prifysgol Abertawe |