Dosbarth Busnes
Mae Dosbarth Busnes yn rhaglen wedi'i phrofi'n drwyadl i ddatblygu partneriaethau rhwng busnesau ac ysgolion sydd o fudd i'r ddwy ochr. Ei nod yw helpu i greu ffrwd o dalent i fusnesau lleol drwy ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc a gwella eu dealltwriaeth o fyd gwaith a'u hymwybyddiaeth o'r dewisiadau gyrfaol sydd ar gael.
Dyma'r manteision i fusnesau
Yn ogystal a dangos eich ymrwymiad i'r gymuned rydych chi'n ei gwasanaethau ac yn datblygu eich enw da fel cyflogwr o safon uchel, mae gweithio'n agos ag ysglion lleol yn rhoi'r cyfle i chi ddylanwadu ar y ffordd mae talent ifanc yn cael ei meithrin a'i datblygu. Ond mae'n ymwneud a mwy na dim ond codi safonau gweithwyr yfory. Mae'n ymwneud hefyd a gwneud eich staff presennol yn fwy cynhyrchiol. Mae gweithio gyda phlant lleol a'u mentora yn waith hynod o wobrwyol a gall:
- gynyddu'r cyfleoedd dysgu a datblygu i staff
- gwella ysbryd cyd-dynnu a gwaith tim
- cynyddu ffyddlondeb a helpu i gadw staff
- cryfhau'r cysylltiadau gyda byd addysg a gweithlu'r dyfodol i wneud eich gwaith recriwtio'n fwy llwyddiannus
Pa Gymorth sydd ar gael i chi?
Gyrfa Cymru sy'n dod ag ysgolion a busnesau ynghyd i sichrau bod y ddau bartner yn cyfateb yn dda a'i gilydd ac yn rhannu'r un weledigaeth. Maent yn sichrau bod pawb yn derbyn cyfarwyddiadau da, yn cael eu paratoi ac yn canolbwyntio ar wneud y rhaglen yn llwyddianus, ac yn rhoi cefnogaeth a chyngor parhaus wrth i'r bartneriaeth dyfu.
Mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn derbyn cymorth i wneud dadansoddiad o'u anghenion er mwyn pennu beth yw eu nodau a'u deilliannau gofynnol. Mae'n hefyd yn gweithio gyda'ch busnes i ganfod eich prif amcanion, eich blaenoriaethau a'ch gallu.
Yn ogystal, mae sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen Dosbarth Busnes yn dod ynghyd i greu clystrau cefnogol sy'n caniatau rhwydweithio a chydweithio ehangach. Bydd cyfle i chi rwydweithio, rhannu arferion gorau a datblygu syniadau newydd gyda busnesau o'r un meddylfryd.
Dyma eich ymrwymiad chi
Mae llwyddiant y rhaglen Dosbarth Busnes yn dibynnu ar gydweithio rhwng busnesau ac ysgolion mewn ffordd strwythuredig, ac mae hynny'n gofyn am ymrwymiad gan y ddwy ochr. Mae'r amser a'r adnoddau sy'n angenrheidiol i osod, gweithredu a monitro'r rhaglen yn dibynnu ar anghenion penodol yr ysgol ac ar allu'r busnes sy'n cymryd rhan. Ond cofiwch y bydd angen i chi neilltuo digon amser i weinyddu, gweithredu a gwerthuso'r rhaglen.
A yw eich busnes chi'n gymwys?
Mae busnesau sydd wedi'u seilio yn y rhanbarthau dilynol yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen Dosbarth Busnes:
- Caerffili
- Caerdydd
- Bae Abertawe
- Sir Gaerfyddin
- Ceredigion
- Pen Y Bont ar Agwr
- Blaena'r Cymoedd
- Casnewydd
- Gogledd Ddwyrain Cymru
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taff
Fodd bynnag, mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd y rhaglen Dosbarth Busnes ar gael i ysgolion a sefydliadau mewn ardaloedd eraill. Mae croeso i chi gysylltu a ni i gael rhagor o wybodaeth.
Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhestr Wirio Rhaglen | |
---|---|
Ardal Cyflenwi | Cymru Gyfan |
Statws | Yn fyw |
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? | Nac Ydi |
Arweinydd y Rhaglen |
Llywodraeth Cymru |