Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu mynediad cyflym at therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a gwasanaethau therapi seicolegol, y cwbl wedi’i deilwra i’r unigolyn. Cynlluniwyd y rhain i helpu pobl gyflogedig neu hunangyflogedig i ddychwelyd i'r gwaith neu reoli cyflwr iechyd yn y gwaith o ganlyniad i un ai:

  • Problem iechyd meddwl; neu
  • Problem gyhyrysgerbydol.

Gall pobl gysylltu â'r gwasanaeth a siarad yn uniongyrchol â chynghorydd arbenigol. Gall meddyg teulu neu gyflogwr (neu unrhyw barti arall â diddordeb) hefyd gyfeirio gweithiwr tuag at y gwasanaeth.

Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith hefyd yn cynnig cymorth a hyfforddiant di-dâl yn uniongyrchol i fusnesau yn y sector preifat a'r trydydd sector, nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol yn aml.

Mae rhaglen hyfforddi ar gael i helpu cyflogwyr i nodi anghenion lles eu gweithlu ac i’w helpu i fanteisio ar raglen bwrpasol o fesurau a gynlluniwyd i wella lles yn y gwaith, gan gynnwys gweithdai hyfforddi a thriniaethau lles.

1.  Case UK

Os yw person yn byw i mewn, neu os yw busnes wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerdydd, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen neu Fro Morgannwg, cysylltwch â Case UK am gymorth drwy ffonio 02921 676213

Gwefan: https://www.case-uk.co.uk/cy/in-workservicewales

2.  Mind Canolbarth a Gogledd Powys

Os yw person yn byw i mewn, neu os yw busnes wedi'i leoli ym Mhowys, cysylltwch â Mind Canolbarth a Gogledd Powys am gymorth drwy ffonio 01597 824411 neu e-bostio admin@mnpmind.org.uk

Gwefan: https://mnpmind.org.uk/in-work-support-service/

3.  Rhyl City Strategy

Os yw person yn byw i mewn, neu os yw busnes wedi'i leoli yn Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe neu Wrecsam, cysylltwch â Rhyl City Strategy am gymorth drwy ffonio 01745 336442 neu e-bostio hello@rcs-wales.co.uk

Ceir rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith a ddarperir gan RCS ar y wefan: https://rcs-wales.co.uk/cy/

 

Mae'r Rhaglen Cymorth yn y Gwaith yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Rhestr Wirio Rhaglen
Ardal Cyflenwi

Cymru gyfan

Statws  Yn fyw
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru