Cymraeg Gwaith

Workplace Welsh

Mae pob busnes yng Nghymru yn wahanol ac mae ganddynt i gyd ofynion gwahanol o ran yr iaith Gymraeg.

Bydd rhai yn delio’n anffurfiol yn unig â chwsmeriaid sy’n ffafrio siarad yn Gymraeg, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Mae eraill yn chwilio am  weithwyr sy’n gallu gwneud cyflwyniadau ffurfiol, rhoi cyfweliadau i’r cyfryngau, cymryd cofnodion, ysgrifennu adroddiadau neu ddarlithio yn Gymraeg.

Beth bynnag bo’ch anghenion, gallwn eich helpu i elwa yn sgìl cynnig gwasanaeth Cymraeg i'ch cwsmeriaid.

Sut mae’n gweithio?

Mae gwefan Cymraeg Gwaith, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan CBAC, yn darparu offer i’ch helpu i ateb rhai cwestiynau allweddol:

  • Ble ydych chi angen eich pobl ddwyieithog?
  • Pa mor dda ddylai eu Cymraeg fod?
  • Sut siâp sydd ar eu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu?

Trwy asesu sgiliau iaith eich gweithwyr presennol gallwch gynllunio rhaglen hyfforddi i lenwi unrhyw fylchau. Cofiwch, gall y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol roi cyngor i chi a helpu i ddod o hyd i’r cwrs gorau i chi. 

Mae'r Ganolfan hefyd yn cynnig y rhaglen Cymraeg Gwaith/Work Welsh, a hefyd yr offeryn diagnostig Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg. Y nod yw darparu cyfleoedd i ystod o weithwyr mewn gwahanol sectorau i ddysgu a gwella'u Cymraeg, defnyddio'r iaith yn hyderus yn y gweithle a thu hwnt, a chwrdd ag anghenion busnes eu sefydliadau. Bydd pwyslais ar feithrin hyder ymhlith siaradwyr rhugl yn ogystal â chefnogi dysgwyr ar wahanol gamau yn eu datblygiad.

 

Pwy sy’n gymwys?

Busnesau o unrhyw faint, mewn unrhyw sector, cyhyd â’u bod wedi’u lleoli yng Nghymru.

Beth sydd ynddo i'ch busnes?

  • gwella elw eich busnes drwy siarad iaith eich cwsmeriaid
  • hybu eich brand - nid yn unig yng Nghymru ond o amgylch y byd
  • helpu gwneud eich cwsmeriaid yn fwy ffyddlon ac ymatebol
  • codi eich cydnabyddiaeth yn y gymuned leol
  • dangos eich ymroddiad i gydraddoldeb a pharch i’ch holl gwsmeriaid
  • gwella morâl eich staff drwy eu galluogi i ddefnyddio eu hiaith yn y gwaith

Galwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000, cysylltwch â ni neu ewch i wefan Cymraeg Llywodraeth Cymru, Dysgu Cymraeg neu wefan Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

 

Rhestr Wirio Rhaglen
Ardal Cyflenwi Cymru Gyfan
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Nac Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru