Prentisiaethau Uwch

Mae'r rhaglen hon y galluogi busnesau yng Nghymru i lenwi bylchau mewn sgiliau drwy ddarparu staff sydd a hyfforddiant amrywiol.

Beth yw hi?

Mae'r rhaglen yn galluogi cyflogwyr i gynnig hyfforddiant i staff ar lefelau gwahanol.

Mae Prentisiaethau Uwch ar gael mewn nifer o sectorau busnes, er mwyn i chi alluogi gweithwyr i gyflanwi lefelau uwch o berfformiad, gall sy'n arwain at rolau mwy technegol a rheolaethol.

Sut mae'n gweithio?

Yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu lefel sgiliau gweithlu Cymru, mae ein rhwydwaith o ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar waith cymeradwy yn gallu cynnig lleoedd ar fframweithiau NVQ Lefel 4 fel bod modd i unigolion gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Mae busnesau yn gallu manteisio ar gymorth ein darparwyr hyffordiant i ddod o hyd i'r rhaglen sy'n diwallu eu hanghenion, a'i defnyddio i uwchsgilio staff i wireddu eu potensial yn llawn neu i recriwtio staff newydd.

Pwy sy'n gymwys?

Mae'n rhaid i'r busnes gael ei leoli yng Nghymru i aelodau staff newydd neu staff presennol fod yn gymwys i dderbyn hyfforddiant.

Beth yw'r manteision?

Drwy gymryd rhan yn y rhaglen gallwch ddisgwyl:

  • Lefelau uwch o foddhad ymysg eich staff oherwydd hyffordiant ystyrlon a datblygiad gyrfa eglur
  • Gostyngiad yn nhrosiant eich staff
  • Hyffordiant pwrpasol sy'n addas i anghenion eich busnes
  • Cynnydd mewn cynhyrchiant a chystadleurwydd
  • Gweithlu ymroddedig, brwdfrydig a medrus
  • Gallu i ddysgu am y technolegau diweddaraf a'r arferion gorau yn eich sector
  • Llai o gostau hyfforddiant a recriwtio 

Y camau nesaf

Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.