Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2

Yn yr hinsawdd economiadd anodd a hynod o gystadleuol sydd ohoni heddiw, rhaid i fusnesau allu addasu a gweithredu'n gyflym i ymateb i newid yn amodau'r farchnad. 

Mae’r rhaglen Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 yn sicrhau bod gan fusnesau yn ne-orllewin Cymru'r gyfres gywir o sgiliau i groesawu a mabwysiadu newid er mwyn eu helpu i lwyddo, ffynnu a thyfu.

 

Trwy ddarparu hyfforddiant gyda chymhorthdal, sy'n benodol i'r sector ac yn berthnasol i'r swydd, byddwn yn cefnogi busnesau sy'n gweithredu ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys:

  • Adeiladu
  • Bwyd
  • Diwydiannau Creadigol
  • Gofal
  • Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
  • Gwyddoniaeth
  • Peirianneg
  • Technoleg, Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Technoleg Moduro
  • Twristiaeth
  • Uwch Gweithgynhyrchu
  • Ynni

Y manteision i fusnesau

Mae llwyddiant neu fethiant eich busnes yn dibynnu ar sgiliau eich staff.  Rydym yma i'ch helpu i wella eu sgiliau, fel eu bod yn gallu adnabod cyfleoedd newydd yn y farchnad, ystyried newid fel cyfle - nid bygythiad, a bod a'r wybodaeth i wthio eich busnes i dyfu'n barhaus.

I gwrdd â gofynion hyfforddi pob aelod o'ch tîm mae Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 wedi ei rannu'n ddau faes (S01 a S02).  Mae S01 yn targedu staff sydd a dim cymwysterau neu rhai isel ac yn anelu at eu helpu i hyfforddi hyd at Lefel 2.  Cynlluniwyd S02 er mwyn helpu aelodau eich tîm hyfforddi i Lefel 3 ac uwch.

Drwy gael eu canolbwyntio'n benodol ar anghenion unigol pob gweithiwr, gall Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 eich helpu i:

  • Orchfygu unrhyw heriau penodol y farchnad lafur a recriwtio trwy wella sgiliau technegol a perthnasol i'r swydd o'r tu mewn.
  • Mynd i'r afael â bylchau sgiliau yn eich tîm, a gwneud yn siŵr bod eich gweithrediad cyfan yn fwy cynhyrchiol o'r top i'r gwaelod.
  • Gwella sgiliau aelodau'r tîm sydd heb ddigon o gymwysterau ac/neu sy'n tanberfformio
  • Diweddaru'r sgiliau presennol ar draws y busnes i sicrhau bod sgiliau'r holl staff yn parhau'n berthnasol i anghenion eich busnes.
  • Ysbrydoli a symbylu staff, a rhoi fframweithiau clir iddynt ar sut i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Arian Cronfeydd yr UE sy'n ein galluogi i roi cymhorthdal i'r cyrsiau ac gwneud hi'n bosib yn ariannol i bob busnes uchelgeisiol - bach a mawr - i fuddsodi mewn hyfforddiant.  Gyda'n cefnogaeth ni, gall sgiliau staff yrru eich busnes i dyfu'n barhaus ac i fod yn fwy proffidiol.

Yn ogystal â chymorth ariannol, gallwch hefyd ddibynnu ar ein darparwyr hyfforddiant i roi cyngor a chymorth drwy gydol y cyfnod.

Eich ymrwymiad

Er bod Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 wedi cael ei sefydlu i'ch helpu i leihau costau hyfforddiant yn slweddol, bydd gofyn i chi wneud ymrwymiad ariannol.  Bydd rhaid i chi gyfrannu canran o gost yr hyfforddiant yn dibynnu ar faint eich busnes, 30% ar gyfer busnesau bach, 40% ar gyfer busnesau canolig eu maint a 50% ar gyfer busnesau mawr.

Hefyd rydym yn disgwyl i chi gefnogi'r rhaglen mewn ffyrdd eraill.  Bydd angen dangos eich cefnogaeth drwy ryddhau amser i staff gael eu hyfforddiant, a dibynnu ar faint eich busnes darparu cyfleusterau addas.

Yw eich busnes yn gymwys?

Mae Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 ar gael i fusnesau sy'n gweithredu ar draws de-orllewin Cymru.  Felly os ydych wedi'ch seilio yn y rhanbarth gallai eich gweithwyr fod yn gymwys. 

 

Galwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Ariennir Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Y De-orllewin
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Coleg Gŵyr Abertawe