Uwchsgilio @ Waith

Holl bwynt Uwchsgilio@waith yw gwella'r sgiliau i lwyddo mewn busnes.  Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i hyfforddi staff sydd heb sgiliau new sydd ag ychydig iawn o sgiliau, neu'r rheini sydd a sgiliau lefel canolig a ddylai fod yn anelu'n uwch

Dyma'r manteision i fusnesau

Y galw sy'n arwain yr hyffordiant, gyda'r ffocws yn llawn ar anghenion unigol eich tim ac wedi eu darparu mewn lle ac ar amser sy'n gyfleus i'ch busnes.  Bydd staff addas yn cael eu nodi ar gyfer y rhaglen, a gweithredu cynllun hyfforddi bydd hynny'n cynyddu generig, technegol a throsglwyddadwy ar bob lefel - o Lefel Mynediad 1 hyd at Lefel 6 - ar draws y gweithlu cyfan.  Bydd yr hyfforddiant yn helpu i sichrau bod gan eich gweithlu'r sgiliau perthnasol i'r swydd sy'n angenrheidiol i dyfu eich busnes ac i'w wneud yn fwy cynhyrchiol a phroffidiol.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Mae dwy raglen Uwchsgilio@waith(SO1 a SO2) yn gweithredu mewn dau ranbarth - Dwyrain Cymru, a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Mae'r ddwy raglen yn gweithredu yn yr un modd, ond maent yn targedu staff sydd a sgiliau ar wahanol lefelau.

  • Mae SO1 yn darparu hyfforddiant ar Lefel Mynediad a Lefel 2 i weithwyr sydd heb lawer o gymwysterau, neu ddim cymwysterau o gwbl
  • Mae SO2 yn darparu hyfforddiant i weithwyr i godi lefel eu sgiliau technegol neu sgiliau perthnasol i'r swydd o Lefel 3 i Lefel 6

Os y'r hyfforddiant ar ein rhestr o gyrsiau cymeradwy, ac yn cael ei ddarparu gan goleg Addysg Bellach sy'n cymryd rhan, yna gellir ei gynnig i'ch busnes am lai o gost.

Os oes cwrs penodol sy'n fwy addas i'ch busnes nad yw ar y rhestr gymeradwy - gellir gwneud cais i bennu os gall arian fod ar gael.

Dyma eich ymrwymiad chi

Mae'r cyrsiau hyn wedi'u hariannu'n rhannol, ond byddwch yn dal i fod angen talu canran o gost y cwrs, y galwn yn gyd-fuddsoddiad yn dibynnu ar faint eich busnes.

Mae cyflogwr bach yn talu 30% o gostau'r hyffordiant

Mae cwmniau canolig yn talu 40%, ac mae sefydliadau mawr yn talu 50%

Mae hefyd ffi ychwanegol i gyflogwyr yn Neddwyrain Cymru

A yw eich busnes chi'n gymwys?

Mae Uwchsgilio@waith yn gweithredu mewn dau ranbarth:

  • Ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (Pen Y Bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taff, Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Torfaen)
  • Ardal Dwyrain Cymru (Trefynwy, Casnewydd, Caerdydd, Bro Morgannwg a Powys)

Dylai bob busnes - yn fach a mawr - sy'n gweithredu mewn unrhyw un o'r rhanbarthau hyn fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen.  Ond, mae rhai meini prawf cymhwysedd penodol yn bodoli, felly i ganfod yr opsiynau hyfforddi gorau i'ch busnes, cysylltwch a ni i gael rhagor o gyngor.

 

Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Uwchsgilio@waith yn cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Ardal Dwyrain Cymru a'r Ardal Gorllewin Cymru a't cymoedd
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Coleg Gwent a Coleg y Cymoedd