Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu

Os ydych yn gweithredu ar ben uchaf y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu yng Nghymru, bydd eich llwyddiant parhaol yn dibynnu ar ddau ffactor allweddol: yn gyntaf, eich gallu i arwain y ffordd gydag ymchwil a datblygu cynnyrch arloesol; yn ail, eich llwyddiant o ran denu pobl o galibr uchel a’r gallu i yrru eich gwaith ymchwil hanfodol ymlaen.

Sefydlwyd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu i ddarparu i fusnesau blaenllaw fel eich busnes chi unigolion o'r radd uchaf sydd wedi eu hyfforddi hyd lefel Meistr a Doethurol, ac sydd a'r sgiliau i ddod yn arweinyddion y sector yn y dyfodol.

Materials and Manufacturing Academy

Y manteision i fusnesau

Bydd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu’n cefnogi 227 o'r unigolion mwyaf dawnus yn y sector ac yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau technegol, arweinyddiaeth a rheolaeth sy'n hanfodol i lwyddiant busnesau deunyddiau a gweithgynhyrchu gwerth uchel yng Nghymru.

 

Yn rhan o'r rhaglen, bydd y canlynol ar gael i'ch busnes:

  • Gwaith ymchwil a datblygu diwydiannol sy'n flaenllaw yn y sector wedi ei gymorthdalu.
  • Cyfleusterau ac arbenigedd o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe, canolfan academaidd adnabyddus ar gyfer ymchwil deunyddiau a gweithgynhyrchu.
  • Ffynhonnell gyson o dalent ymchwil o'r radd uchaf i'ch busnes.

Mae’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu’n cynnig ffordd hynod o hyblyg a chost-effeithiol o wneud gwaith ymchwil, ac oherwydd y byddwch yn dod i adnabod yr ôl-raddedigion yn dda yn ystod eu hamser gyda'ch busnes, byddwch hefyd yn cael syniad clir o'u galluoedd a'u gwerth hirdymor fel gweithwyr yn y dyfodol.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Bydd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu'n talu cyflog blynyddol i’r ymchwilydd o £20,000 Doethuriaeth / £12,500 Meistr.   Rhaid i'ch cwmni gyfrannu’n flynyddol, £10,500 Doethuriaeth / £4,345 Meistr.  Bydd cyfle i chi weithio gyda nhw am flwyddyn neu am bedair blynedd, ond does dim rhwymedigaeth i gyflogi'r myfyriwr pan fydd y gwaith ymchwil ar ben, na chwaith i'r myfyriwr gymryd swydd gyda'ch cwmni.

Eich ymrwymiad

I gymryd rhan, mae angen i'ch busnes gyflwyno cynigion am brosiect ymchwil un flwyddyn ar lefel Meistr, neu pedair blynedd ar lefel Doethuriaeth, sydd wedi'i gysylltu'n glir a chynhyrchion, prosesau neu farchnadoedd eich cwmni. 

Bydd rhaid i'r ymchwilydd ôl-raddedig feddu ar Radd 2:1 o leiaf mewn gwyddoniaeth neu beirianneg, a chael eu goruchwylio gan academydd o Brifysgol Abertawe.  Rhaid i chi hefyd ddynodi cynrychiolydd o'ch busnes i ddod yn rheolwr llinell a mentor i'r myfyriwr.

Yw eich busnes yn gymwys?

Gall unrhyw fusnes sy'n gweithredu yng Nghymru cyd-ariannu Doethuriaeth mewn Peirianneg neu Radd Meistr mewn ymchwil, ar yr amod ein bod yn fodlon y bydd gwaith ymchwil yn dod a manteision cyffyrddadwy i lwyddiant tymor hir y cwmni.  Rhaid i fyfyrwyr sydd wedi eu cofrestru gydag Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu hefyd gael cyfeiriad preswyl yn yr ardal Cydgyfeirio Cymru a dal pasbort y DU neu hawl parhaol i aros.

 

Galwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Ariennir yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Cronfeydd yr UE yng Nghymru

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Cymru Gyfan
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Prifysgol Abertawe