Mynediad i Waith

Mae gan bawb yr hawl i weithio. Sefydlwyd Mynediad i Waith i ddarparu grantiau i helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â rhwystrau a wynebir gan berson anabl yn y gweithle.

Beth yw ei phwrpas

O dan nawdd Canolfan Byd Gwaith, mae'r rhaglen yn darparu cyngor ymarferol i fusnesau sy'n dymuno cyflogi pobl anabl - yn llawn neu'n rhan amser. Mae'n cynnig grant ac arweiniad i unigolion anabl sy'n barod mewn gwaith, yn hunangyflogedig neu'n chwilio am swydd. Mae arian ar gael i helpu i dalu am unrhyw addasiadau i'r amgylchedd gwaith neu osod unrhyw gyfarpar gwaith, os bydd y tu hwnt i addasiadau rhesymol y mae'n rhaid i chi fel cyflogwr eu darparu'n gyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Sut mae'n gweithio

Mae Mynediad i Waith yn cynnig grant i ad-dalu cost unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen. Asesir yr arian fesul cais i sicrhau'r ateb gorau posibl i bawb.

Mae lefel y grant yn dibynnu ar:

  • a ydy'r person yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig
  • pa mor hir y mae eich cyflogai wedi bod yn ei swydd gyntaf
  • y math o gymorth sydd ei angen

Fodd bynnag, ystyrir grantiau hyd at 100% ar gyfer:

  • pobl hunan-gyflogedig
  • cyflogai sydd wedi bod yn gweithio am lai na 6 wythnos pan fyddan nhw'n ymgeisio am y tro cyntaf
  • y Gwasanaeth Iechyd Meddwl
  • gweithwyr cymorth
  • costau ychwanegol i deithio i'r gwaith a theithio o fewn gwaith
  • cymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau

Bydd swm ceisiadau Mynediad i Waith yn cael ei gapio ar £65,180 y flwyddyn.

Mae grantiau Mynediad i Waith a ddyfarnwyd ar 1 Hydref 2015 neu ar ôl hynny wedi'u capio. Mae swm y cap yn dibynnu ar pryd y dyfarnwyd neu y adolygwyd eich grant ddiwethaf.

Sylwer: os ydy eich cyflogai anabl wedi bod yn gweithio yn eich busnes am fwy na 6 wythnos cyn ymgeisio, mae'n bosibl y bydd disgwyl i'r busnes rannu rhywfaint o'r costau. Felly, po gyntaf y byddwch chi'n gwneud cais, gorau oll.

Pwy sy'n gymwys?

Mae'r cyflogai'n derbyn y cymorth yn uniongyrchol. I fod yn gymwys am help, rhaid iddo/iddi:

  • fod ag amhariad neu gyflwr iechyd sy'n golygu bod angen cymorth, addasiad neu gefnogaeth ariannol neu gan berson arno/arni i wneud ei swydd
  • fod dros 16 oed
  • fod mewn neu ar fin dechrau swydd gyflogedig (gan gynnwys hunan-gyflogaeth)
  • fod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban fel arfer
  • beidio â hawlio Budd-dal Analluogrwydd na Lwfans Cyflogaeth a Chymorth unwaith y bydd wedi dechrau gweithio

Beth sydd ynddo i'ch busnes?

  • y cyfle i sicrhau bod eich holl gyflogeion yn gallu arddangos eu talentau a'u galluoedd
  • gweithlu ymroddedig, brwdfrydig a chymwys sydd wedi ymrwymo i'ch busnes
  • help i gadw cyflogai presennol sy'n datblygu amhariad neu gyflwr iechyd yn ystod ei fywyd gwaith
  • bod ar flaen y gystadleuaeth wrth chwilio am dalent

MAE'N BRYD sicrhau bod pawb yn cael mynediad i waith

Galwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rhestr Wirio'r Rhaglen
Ardal Gyflenwi  Cymru Gyfan
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop?  Na
Arweinydd y Rhaglen

Canolfan Byd Gwaith