Y Gwasanaeth Di-waith

Mae'r Gwasanaeth Di-waith yn darparu cymorth mentora gan gymheiriaid a chefnogaeth â chyflogadwyedd i bobl sy'n gwella o gamddefnyddio sylweddau a/neu salwch meddwl i ymbaratoi ar gyfer byd gwaith.  Gall cyflogwyr fanteisio ar dri mis o gyngor a chymorth gan fentoriaid os ydynt yn cyflogi rhywun a atgyfeirir gan y gwasanaeth.

Prif nod y gwasanaeth yw helpu pobl i gael ac i aros mewn swydd.  Er mwyn cyflawni hyn, mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda chyflogwyr sy’n dymuno cynnig cyfleoedd i bobl sy'n gwella – hyfforddiant, lleoliadau, datblygu sgiliau, ond yn fwy na dim, swyddi.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n bennaf gan fentoriaid sydd wedi bod drwy’r problemau hyn eu hunain ac yn gwybod beth yw'r anawsterau.  Mae’r mentoriaid hyn hefyd yn deall sut mae gwaith a gwella yn cydblethu, ac maen nhw’n gallu cynnig cymorth a chyngor i gyflogwyr.  Gallant egluro sut mae patrymau a pholisïau cyflogaeth yn effeithio ar y broses wella, a sut y gall pobl sydd ar y ffordd i wella fod yn weithwyr ffyddlon a chynhyrchiol.

Mae'r gwasanaeth yn rhan o’r Warant i Bobl Ifanc er mwyn sicrhau nad oes ‘cenhedlaeth goll’ yng Nghymru yn dilyn y pandemig COVID-19. Mae’n cofrestru pobl 16-24 oed nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) a rhai 25+ oed nad ydynt wedi bod yn chwilio am waith neu sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na 12 mis. Efallai nad yw rhai erioed wedi gallu cael na chadw swydd. Mae'r gwasanaeth yn eu helpu i baratoi ar gyfer gwaith drwy weithgareddau addas. Ar y llaw arall, mae rhai sydd ond angen y mymryn lleiaf o anogaeth i fod yn barod am waith.

Mae cymorth hefyd ar gael i bobl yn Ne-ddwyrain Cymru sydd ymhlith y Di-waith Tymor Byr o ganlyniad i Covid 19.

Er mwyn i bobl gael gwaith, mae angen cyflogwyr sy'n barod i fagu dealltwriaeth o’r broses o wella ac i roi cyfle i bobl sydd ar y daith honno i weithio.

Os ydych yn chwilio am weithwyr newydd, ac yn fodlon ac yn gallu cynnig cyfleoedd gwaith neu hyfforddiant a rhywfaint o gymorth ar y cychwyn i weithiwr newydd sy'n gwella, beth am gysylltu â:

Case-UK Ltd ar 02921 676213 ar gyfer Cwm Taf - Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Pen-y-Bont ar Ogwr

Platfform ar 01495 245802 ar gyfer Gwent - Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy

Adferiad-Cyfle Cymru ar 0300 777 2256 ar gyfer unrhyw ardal arall Cymru