Mae cefnogaeth i ddatblygu sgiliau a sefydlu busnes wedi helpu cyn-ddeintydd i weddnewid ei bywyd a lansio menter newydd fel gwneuthurwr gemwaith. Nawr mae’n anelu at sicrhau cefnogaeth i hyfforddi prentisiaid i’w hefelychu.

Deintydd llwyddiannus yn mynd amdani ac yn lansio gyrfa newydd

Menna LLoyd

Wedi gyrfa faith ac uchel ei phroffil fel uwch reolwr gyda’r gwasanaeth deintyddol, cyrhaeddodd Menna Lloyd groesffordd yn 2011 a dewisodd lwybr newydd tuag at ffordd newydd o fyw..

Wedi cymhwyso fel deintydd yn y 1970au, roedd wedi cael sawl dyrchafiad nes dod yn gyfarwyddwr clinigol ar Wasanaethau Deintyddol Cymunedol Bwrdd Iechyd Caerdydd, ond penderfynodd dderbyn diswyddiad gwirfoddol a dechrau ar yrfa newydd sbon.    

Dywedodd: “Roedd gen i swydd dda, uchel ei phroffil, ond roeddwn i’n nesáu at oedran ymddeol ac yn teimlo ’mod i eisiau gwneud rhywbeth arall. Pe na bawn i wedi cymryd y cam bryd hynny, ’fyddwn i byth wedi ei gymryd, ac fe ddechreuais i ar yrfa newydd.”

Roedd dwy o fentrau Llywodraeth Cymru o gymorth i osod y sylfaen ar gyfer busnes newydd llwyddiannus sy’n cyfuno ei dau angerdd mewn bywyd erbyn hyn – hanes a chreu gemwaith.

Sicrhaodd Menna, sy’n byw yng Nghaerdydd, le iddi hi ei hun ar raglen i ddysgu sgiliau newydd ac i roi cyfle iddi droi diddordeb oes yn yrfa, a bellach mae’n ehangu’r busnes o weithdy a stiwdio yn Llantrisant i fenter sy’n mynd â hi i bob cwr o Gymru. Mae’n gobeithio gwerthu ei chynnyrch a chyflwyno gweithdai ar hyd a lled y wlad, gan ddefnyddio amgueddfeydd a lleoliadau eraill fel canolfannau.

Roedd yn gymwys am grant o dan fenter ReAct II Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd ar ôl cael eu diswyddo. Defnyddiodd y cyllid a oedd ar gael i ennill diploma o Ysgol Gemwaith Llundain yn Hatton Garden.

O ran y gwaith ymarferol sy’n gysylltiedig â sefydlu busnes, nid oedd yn siŵr i ba gyfeiriad y dylai fynd ac felly trodd at wasanaeth Sefydlu Busnes Llywodraeth Cymru am gefnogaeth.      

Cyfeiriwyd Menna at gontractwr y gwasanaeth, Centre for Business, a chychwynnodd ar siwrnai sydd, hyd yma, wedi ei harwain, ymhlith pethau eraill, at gasgliadau mewn chwe oriel a phresenoldeb yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Rydw i’n gwneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud erioed nawr – byw’r freuddwyd

Wrth iddi baratoi ar gyfer ei busnes newydd, mynychodd Menna sawl gweithdy a oedd o gymorth iddi lunio cynllun busnes a chafodd gyngor ynghylch cynllunio’n ariannol, a chyfarwyddyd hyd yn oed ynghylch y problemau hawlfraint y deuai ar eu traws o bosib yn y byd yr oedd yn mentro iddo.

““Doeddwn i ddim yn siŵr i ba gyfeiriad y dylwn i fynd ond fe gefais i gefnogaeth dda, a mentor rhagorol i drafod syniadau ag ef. Mae posib meddwl am y syniadau gorau yn y byd ond bydd angen cymorth arnoch chi i ddod â phopeth at ei gilydd ar yr amser priodol,” eglurodd.

A hithau’n 60 oed, ar wahân i ddal ati i ehangu’r busnes, mae ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys targedu amgueddfeydd ledled y DU, trefnu ei gweithdai creu gemwaith ei hun ac, yn y diwedd, croesawu prentisiaid i ddarparu gwaith i eraill gynnal y traddodiad.     

“Rydw i’n gwneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud erioed nawr – byw’r freuddwyd,” ychwanegodd i gloi.


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen