Daeth manteisio ar raglen Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i helpu pobl a ddiswyddwyd, â gwelliant mawr i waith gweinyddu dydd-i-ddydd elusen arloesol yng Ngogledd Cymru.

Ysgol Farchogaeth yn bancio ar sgiliau rheoli Janette.

Clwyd Riding School

Mae ysgol farchogaeth arloesol ar gyfer pobl ag anghenion arbennig wedi dod yn fwy hygyrch i’w defnyddwyr diolch i raglen sgiliau a chyflogaeth sydd wedi galluogi’r ymddiriedolwyr i logi gweinyddwraig brofiadol a oedd wedi bod yn ddioddefwraig rhaglen ddiswyddo’r diwydiant bancio.

Mae Ysgol Farchogaeth Arbennig Clwyd, yn Llanfynydd ger Wrecsam, a agorwyd gan Ei Huchelder Frenhinol y Dywysoges Anne yn 1992, yn elusen gofrestredig sy’n darparu profiadau a all newid bywydau trwy farchogaeth ar gyfer oddeutu 130 o bobl yr wythnos.

Mae gan y cyfadeilad, a gydnabyddir fel canolfan ragoriaeth ryngwladol, stablau ar gyfer mwy nag 20 o geffylau, gydag ardaloedd dan do ac awyr agored a llety gwyliau a addasir ar gyfer pobl anabl. Hefyd mae’n hyfforddi gwirfoddolwyr, hyfforddwyr, arholwyr a ffisiotherapyddion.

Cyflenwir gweithrediadau dydd-i-ddydd gan gymysgedd o gyflogeion a gwirfoddolwyr. Fodd bynnag roedd prinder adnoddau rheoli swyddfa’n golygu y gellid staffio swyddfa’r ganolfan, roedd y galw amdani’n uchel, yn rhan amser yn unig, ar dri diwrnod yr wythnos.

            Baswn i’n cymeradwyo bod gan pob ymgeisydd swydd mewn sefyllfa debyg fanylion ReAct II ar flaenau eu bysedd wrth fynd at gyflogwyr posibl, yn arbennig busnesau bach a maint canolig

Newidiodd hynny i gyd diolch i raglen ReAct II Llywodraeth Cymru a ddarparodd gyllid a chefnogaeth hyfforddi a oedd yn caniatáu i’r ymddiriedolwyr recriwtio a hyfforddi’r swyddog banc profiadol iawn Janette Edwards a chadw’r swyddfa’n weithredol drwy’r dydd am o leiaf pedwar diwrnod yr wythnos.

Mewn gwirionedd y fenyw â llygad barcud Janette ei hunan a ddygodd y rhaglen at sylw’r ymddiriedolwyr. Helpodd y rhaglen nhw i dalu ei chyflog, ynghyd â chost hyfforddiant, fel y gallai hi addasu’r sgiliau gweinyddol ac ariannol o’i gyrfa fancio i amgylchedd newydd. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant mewn datblygu rheolaeth.

Roedd y trysorydd anrhydeddus Maurice Cottle, cyfrifydd siartredig a oedd wedi ymddeol, wrth ei fodd â’r gefnogaeth gan ReAct II, a gynlluniwyd i dynnu rhwystrau i weithwyr a ddiswyddwyd gan un sector wrth ddod o hyd i waith mewn sectorau eraill.

Meddai Maurice: “Nid yn unig mae’r ganolfan weinyddol yn swyddfa, hefyd dyna’r man cyswllt cyntaf i’r mwyafrif o ymwelwyr ac, oherwydd hynny, mae’n ardal weithredu brysur iawn. O’r blaen gallen ni ddarparu gwasanaeth rhan amser yn unig ar dri diwrnod yr wythnos ond erbyn hyn gall y swyddfa fod yn agored am hyd at wyth awr y dydd, am o leiaf pedwar diwrnod yr wythnos, sy’n welliant sylweddol.

Ychwanegodd: “Fel trysorydd, ces i argraff fawr gan ymateb Janette. Roedd o gymorth mawr inni yn y broses ddewis cyflogaeth ac mae wedi helpu i wrthbwyso costau ychwanegol unigolyn newydd yn gweithio oriau ychwanegol.”

Ychwanegodd Maurice: “Baswn i’n cymeradwyo bod gan pob ymgeisydd swydd mewn sefyllfa debyg fanylion ReAct II ar flaenau eu bysedd wrth fynd at gyflogwyr posibl, yn arbennig busnesau bach a maint canolig. Gall penderfyniadau recriwtio gael eu dylanwadu gan y cynlluniau hyn a gallai hyn fod yn arwyddocaol wrth wella sgiliau a chynhyrchu cyflogaeth ychwanegol ledled Cymru.”


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen