Atgyfnerthu eich busnes

Adeiladu busnes llwyddiannus yn gyflawniad sylweddol. Ennill achrediad yn ffordd wych i atgyfnerthu eich busnes ac yn cydnabod eich cyflawniadau.

Bydd hefyd yn sicrhau eich bod yn cynnal eich momentwm.

Manteision achredu eich busnes

Yn ol yr ymchwil, mae busnesau achrededig:

  • Yn fwy cynaliadwy
  • Yn fwy proffidiol
  • Yn gallu cystadlu'n well
  • Yn rheoli newid yn well

Cymru Iach ar Waith: Y Safon Iechyd Corfforaethol a  Gwobr Iechyd y Gweithle Bach 

Menter i gyflogwyr wella iechyd y gweithlu a'u sefydliad.

Gall busnesau gael mynediad i gymorth  a chyngor i ddatblygu mentrau iechyd, llesiant a diogelwch yn y gweithle drwy'r Safon Iechyd Corfforaethol a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach. 

Dyfernir y Safon Iechyd Corfforaethol i fusnesau sy'n cyflogi mwy na 50 o bobl, a bwriedir Gwobr Iechyd y Gweithle Bach ar gyfer gweithleoedd sy’n cyflogi llai na 50 o bobl.

Mae'r rhaglen wobrau'n anelu at wella iechyd a llesiant yn y gwaith, lleihau effaith afiechyd yn y gwaith a hybu ymyrryd yn gynnar i adsefydlu'r rhai sydd wedi mynd yn sâl, neu sydd wedi'u hanafu, trwy weithio gyda chyflogwyr. Bydd hyn hefyd yn helpu i gynyddu perfformiad a chynhyrchiant y sefydliad.

Mae'r gwobrau'n cael eu cyflwyno i sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector sy'n rhoi arferion ar waith i hybu iechyd a llesiant eu gweithwyr.  Mae'r gwasanaeth di-dâl hwn yn cael ei ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fel mentrau eraill sy'n ymwneud ag ansawdd y gweithle, rhaglen raddedig  ydyw ac mae sefydliadau'n cael eu hailasesu bob tair blynedd. Mae'r gwaith i gyflawni'r safon yn gyson â'r model rhagoriaeth mewn busnes, sy'n gyrru ansawdd a datblygiad sefydliadol mewn llawer o sefydliadau.

Caiff eich busnes/ sefydliad ei asesu am y Gwobrau gan banel bach o aseswyr annibynnol.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth: Cymru Iach ar Waith

Y wefan Cymru Iach ar Waith.

Cynnal Cymru / Sustain Wales

Cynnal Cymru – Sustain Wales yw’r sefydliad sy’n arwain y maes mewn datblygu cynaliadwy yng Nghymru a sy'n cynnig Gwobrau Academi Cynaliadwy blynyddol. Mae'r Gwobrau'n cydnabod pobl anhygoel, prosiectau a mentrau sy'n cyfrannu at y saith Nod Llesiant Cenedlaethol a'r pum Ffordd o Weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

 

Cynnal Cymru - Sustain Wales Gwobrau Cynnal Cymru

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn #gwella sut rydych chi'n gweithio

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl, y safon ar gyfer rheoli pobl, yn darparu fframwaith ar gyfer busnesau i nodi arferion da a gwneud gwelliannau.  Mae'n defnyddio dulliau hyblyg o asesu sut mae busnesau yn ymgysylltu â phobl ac yn eu cynnwys yn y broses o gyflawni eu hamcanion.

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl wedi bod yn asesu sefydliadau ers 28 mlynedd ac mae'n gweithio mewn mwy na 75 o wledydd. Mae dyfarniad achredu yn para am dair blynedd neu, i fusnesau â hyd at 50 o gyflogeion, mae achrediad o flwyddyn yn opsiwn. 

Cliciwch yma i ddarllen mwy am  Buddsoddwyr mewn Pobl