Cyhoeddiad Gwaith Maes

Mae gwaith maes wedi dechrau ar Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2017

Yr arolwg hwn, sydd wedi ei seilio ar fwy na 87,000 o gyfweliadau ffôn gyda chyflogwyr y Deyrnas Unedig, yw un o'r arolygon cyflogwyr mwyaf yn y byd.

Mae'r arolwg yn hanfodol i waith Llywodraeth Cymru. Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am y sialensiau o ran sgiliau sy'n wynebu cyflogwyr yn eu gweithluoedd presennol ac o ran dod â gweithwyr newydd medrus i mewn, lefelau a natur y buddsoddiad mewn hyfforddiant a'r berthynas rhwng y sialensiau sgiliau, y gweithgareddau hyfforddi a'r strategaeth fusnes.

Cynhaliwyd yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr diwethaf yn 2015, a gellir gweld canlyniadau'r arolwg hwn ar wefan Llywodraeth Cymru

Bydd y gwaith ymchwil ar gyfer yr arolwg yn digwydd rhwng misoedd Ebrill a Medi 2017 gan IFF Research, BMG Research ac Ipsos MORI ar ran yr Adran Addysg a'i phartneriaid: 

  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth yr Alban
  • Adran yr Economi Gogledd Iwerddon

Mae llwyddiant yr arolwg yn ddibynnol ar barodrwydd y cyflogwyr i gymryd rhan. Os cânt eu dethol, mae cyfle i'r cyflogwyr ddewis amser sy'n gyfleus iddynt ar gyfer y cyfweliad. Os ydych yn gyfranogwr mae rhagor o wybodaeth ar dudalen Cwestiynau Cyffredin arolwg IFF Research: http://www.skillssurvey.co.uk/welsh/faqs.htm   

Bydd canlyniadau'r arolwg ar gael yn gyhoeddus ar y wefan gov.uk yn ystod haf 2018. Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg cewch ddewis a ydych eisiau derbyn adroddiad cryno o ganlyniadau'r arolwg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cliciwch yma i gysylltu ag IFF Research neu anfonwch e-bost i Lywodraeth Cymru drwy LMI@cymru.gsi.gov.uk.