Planet Gymnastics

Mae menter gymunedol yng Nghaerdydd yn annog busnesau eraill i ystyried defnyddio'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd ar ôl gweld mai dyma’r ateb perffaith i lenwi’r bwlch mewn sgiliau yn y mudiad.

Mae Planet Gymnastics, mudiad nid-er-elw sy’n darparu hyfforddiant dawns a gymnasteg i bob oed, wedi defnyddio’r rhaglen i bontio ei fylchau o ran sgiliau ac i hyfforddi a chadw ei weithlu, yn ogystal â chanfod ymgeiswyr ar gyfer ei gynllun Prentisiaethau. 

Dywedodd Becky Johnson, Cyfarwyddwr Planet Gymnastics: “Er ein bod ni bob amser yn cael llawer o geisiadau ar gyfer ein swyddi gofal plant, rydyn ni wedi sylwi nad yw nifer o'r ymgeiswyr yn sylweddoli beth mae gweithio ym maes gofal plant yn ei olygu mewn gwirionedd, ac mae llawer o unigolion yn gadael. 

“Yn ogystal â chostau recriwtio uwch, arweiniodd hyn at brinder sgiliau roedd angen i ni ei lenwi yn y cwmni. Fe ddaethom o hyd i’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wrth ymchwilio i wahanol bosibiliadau ac roedd yn ymddangos ei bod yn cynnig yr ateb perffaith i ni.

 “Mae'r rhaglen wedi bod yn werthfawr iawn i ni fel busnes. Mae’n caniatáu i ni dreialu unigolion a’u hyfforddi i ddatblygu’r sgiliau y byddai eu hangen arnynt i fynd ymlaen i ymgymryd â Phrentisiaeth gyda ni. Yn ystod eu lleoliad, rydyn ni’n dod i adnabod yr unigolion ac yn gweld sut maen nhw’n gweithio gyda phlant ac yn ymwneud â nhw. Ar ddiwedd y lleoliad, os ydyn ni’n teimlo y bydden nhw’n ymgeisydd da ar gyfer Prentisiaeth, byddwn yn eu hannog i wneud cais am un.

“Mae'r lleoliadau gwaith hefyd yn rhoi cyfle i unigolion gael cyfle i weithio ym maes gofal plant a gweld a ydyn nhw’n mwynhau’r maes cyn ymrwymo iddo. Pan ddaw’r amser iddyn nhw lenwi cais, bydd ganddyn nhw syniad da o’r hyn mae'r gwaith yn ei gynnwys, yn ogystal â phrofiad gwerthfawr o ymgymryd â'r swydd, a fydd yn eithriadol o fuddiol iddyn nhw pan, neu os, byddan nhw’n penderfynu ymgymryd â Phrentisiaeth. 

“Pan fyddwn yn ystyried unigolyn ar gyfer lleoliad gwaith, rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n angerddol dros weithio gyda phlant ond sydd wedi’i chael yn anodd dod o hyd i swydd ym maes gofal plant am ba bynnag reswm. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi gweld bod yr unigolion yn frwdfrydig ac yn weithgar iawn ac rydyn ni wedi bod wrth ein boddau yn eu helpu i gamu ar yr ysgol yrfa.”

Mae’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wedi’i dylunio i roi hyder a phrofiad i unigolion fynd ati i gael swyddi drwy leoliadau profiad gwaith o ansawdd uchel sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith, gweithdai hyfforddi sgiliau a chyflogadwyedd, uwchsgilio mewn sgiliau hanfodol a staff cynorthwyol ymroddgar.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cliciwch yma.