St David’s Care Home
Mae cartref gofal preswyl mwyaf Gogledd Cymru wedi gweld bod y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wedi bod yn ffordd wych o ddod o hyd i staff ymroddgar i lenwi'r bwlch sgiliau yn ei sefydliad.
Mae Cartref Gofal Dewi Sant yn y Rhyl yn cyflogi 40 o aelodau o staff ac yn darparu gofal 24 awr i hyd at 52 o breswylwyr. Pan ddechreuodd y cartref weld bod ganddo brinder staff, roedd y rhaglen yn ffordd o chwilio am dalent newydd i ymuno â’r tîm.
Dywedodd Ruth Waltho, Perchennog a Rheolwr Cartref Gofal Dewi Sant: “Mae gwaith ym maes gofal yn feichus iawn ac yn gofyn am lawer o ymroddiad a gwaith caled. Yn ogystal â hyn, mae angen i ofalwyr fod yn bobl dosturiol sydd â dealltwriaeth naturiol o anghenion pobl y mae angen cymorth arnynt. O’n profiad ni, dydy llawer o bobl sydd eisiau gweithio ym maes gofal ddim yn gwybod beth mae'r gwaith yn ei gynnwys, neu does ganddyn nhw ddim y rhinweddau angenrheidiol i lwyddo mewn amgylchedd gofal, a dydyn nhw ddim yn para’n hir yn y swydd.
“Am y rheswm hwnnw, mae hi wedi bod yn anodd i ni ddod o hyd i’r bobl iawn i ymuno â’n tîm ni. Mae hi bob amser yn risg cyflogi aelodau o staff nad oes ganddyn nhw brofiad ym maes gofal oherwydd rydyn ni wedi gweld cymaint o weithwyr newydd yn ein gadael ni ar ôl iddyn nhw sylweddoli beth mae'r gwaith yn ei olygu mewn gwirionedd. Ar yr un pryd, dydy hi ddim bob amser yn hawdd dod o hyd i'r gofalwyr profiadol y mae eu hangen arnom i lenwi'r bylchau o ran sgiliau sydd gennym ar ôl i rywun benderfynu symud ymlaen.
“Pan glywsom ni am y rhaglen a beth roedd yn ei gynnwys, fe wnaethon ni benderfynu rhoi cynnig arni fel ffordd o chwilio am dalent newydd a dod o hyd i ymgeiswyr gyda’r rhinweddau angenrheidiol i fod yn aelodau parhaol o’n tîm ni.
“Fe wnaeth y ganolfan byd gwaith weithio’n agos gyda ni i ddeall ein hanghenion ac i sicrhau ei bod yn dod o hyd i unigolyn addas ar ein cyfer. Fe gawsom ni gyfle i anfon dau o’n huwch ofalwyr i gyfweld yr ymgeiswyr posibl cyn penderfynu i bwy roedden ni am gynnig y lleoliad.
“Mae derbyn unigolion drwy’r rhaglen hon wedi bod yn ffordd effeithiol iawn o lenwi’r bwlch o ran sgiliau oedd gennym ni. Mae’n caniatáu i ni dreialu unigolion amhrofiadol a’u hyfforddi yn y sgiliau y mae fwyaf eu hangen arnom yn y busnes.
“Yn ystod eu lleoliad, rydyn ni’n dod i adnabod yr unigolion, yn gweld sut maen nhw’n ffitio yn ein tîm ac yn asesu a oes ganddyn nhw'r ymroddiad a’r natur dosturiol i lwyddo mewn amgylchedd gofal cyn cynnig lle iddyn nhw fel aelod o staff parhaol.
“Rydyn ni’n teimlo bod y system yn gweithio’n dda i’r unigolion hefyd, oherwydd efallai y bydden nhw’n ei chael yn anodd cael swydd yn y sector gofal heb unrhyw brofiad gwaith ymarferol. Fe allan nhw gael profiad ymarferol o weithio ym maes gofal a chael blas gwirioneddol ar sut beth yw gweithio mewn amgylchedd gofal i weld a ydyn nhw’n mwynhau cyn ymrwymo i swydd barhaol.
“Mae'r rhaglen wedi gweithio’n eithriadol o dda i ni fel busnes. Fe fydden ni’n sicr yn ystyried rhoi cyfle i ragor o unigolion yn y dyfodol ac yn argymell bod cyflogwyr eraill yn gwneud hynny hefyd.”
Mae’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wedi’i dylunio i roi hyder a phrofiad i unigolion fynd ati i gael swyddi drwy leoliadau profiad gwaith o ansawdd uchel sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith, gweithdai hyfforddi sgiliau a chyflogadwyedd, uwchsgilio mewn sgiliau hanfodol a staff cynorthwyol ymroddgar.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cliciwch yma.