Trivallis

Mae un o landlordiaid cymdeithasol mwyaf Cymru wedi dod o hyd i ateb gwych sy'n rhoi'r hyder angenrheidiol i drigolion allu ailafael mewn gyrfa.

Mae Cymdeithas Dai Trivallis ym Mhontypridd sy’n rhoi cartref i filoedd o deuluoedd yn ardal Rhondda Cynon Taf, yn manteisio ar y Rhaglen Sgiliau 
Cyflogadwyedd er mewn helpu i wella sgiliau’r trigolion a rhoi'r cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn tanio'u gyrfaoedd.

Dywedodd Simon Deacon, Swyddog Lleoliadau yn Trivallis: “Ers i ni ddod i wybod am y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd rydym wedi bod wrthi yn ceisio dod o hyd i bobl yn y gymuned leol, p'un a ydynt yn denantiaid i ni neu yn drigolion yn y gymuned ehangach, sydd angen yr hwb ychwanegol hwnnw i ailafael yn eu gyrfa. 

“Rydym yn cymryd pobl am chwe mis ar sail wirfoddol. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydym yn rhoi help llaw iddynt ganfod pa sgiliau sydd eisoes ganddynt a pha rôl neu lwybr gyrfa sy'n gweddu i rinweddau, nodweddion a sefyllfa'r unigolyn. Dyna sut y mae'r rhaglen yn gweithio i ni. Rydym hefyd yn cynnig mynediad at hyfforddiant, profiad a chymwysterau a allai fod o help iddynt ddod o hyd i swydd barhaol ar ôl y lleoliad.

“Mae'n gwirfoddolwyr ni yn troi eu llaw at bopeth, torri gwair a chynnal a chadw'r ardd, glanhau, clirio llefydd gwag, gwaith cychwynnol, gosod ffensys, paentio ac addurno a hyd yn oed gwaith gweinyddol. Hebddyn nhw, allwn ni ddim gweithredu o ddydd i ddydd. 

“Ar ôl iddynt orffen eu lleoliad, rydym yn ceisio dod o hyd i swydd sy'n talu iddyn nhw, a hynny am chwe mis pellach, cyn gwneud pob ymdrech i'w helpu i ddod o hyd i swydd sy'n fwy parhaol, boed hynny gyda ni neu gyda sefydliad arall.

“Mae'r rhaglen yn wych. Mae'n fenter sy'n help gwirioneddol i ni hwyluso'r broses o wella sgiliau, hyfforddi a datblygu trigolion ein cymunedau lleol. Rydym yn ei hargymell i unrhyw gyflogwyr sydd eisiau helpu pobl yn eu cymunedau lleol. Gall fod yn ffordd berffaith i fynd i'r afael ag unrhyw brinder o ran sgiliau ac i hyfforddi a chadw'r staff sydd eu hangen arnynt yn y busnes.  Yn amlach na pheidio, mae pawb ar eu hennill.”

Mae’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wedi’i dylunio i roi hyder a phrofiad i unigolion fynd ati i gael swyddi drwy leoliadau profiad gwaith o ansawdd uchel sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith, gweithdai hyfforddi sgiliau a chyflogadwyedd, uwchsgilio mewn sgiliau hanfodol a staff cynorthwyol ymroddgar.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cliciwch yma.