Cynhwysiant Gweithredol Cymru

Mae Cynhwysiant Gweithredol yn rhoi'r cyfle i sefydliadau lleol helpu pobl sy'n ddi-waith yn yr hirdymor neu'n economaidd anweithgar yn ôl i'r gwaith. Gallai hynny ddigwydd trwy amrediad o ddulliau ymyrryd, sy'n amrywio o ddatblygu sgiliau gwaith perthnasol, darparu cymhwysterau achrededig, a chynnig lleoliadau gwaith â thâl sy'n cael eu cynnal.

Active Inclusion

Mae angen i'r unigolion hynny sy'n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn y hirdymor gychwyn ar daith i'w helpu i wella'u sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu sylfaenol, er mwyn iddynt fod yn fwy hyderus ac yn fwy parod ar gyfer y byd gwaith.

Os ydych o'r farn y gallwch gefnogi pobl sy'n wynebu rhwystrau cymhleth rhag mynd yn ôl i'r gwaith - drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu neu drwy gefnogi lleoliadau gwaith - mae'n bosibl y gallwn gynnig y cymorth ariannol sydd ei angen i'ch helpu i wneud hynny.

MAE'N BRYD inni droi pobl ddi-waith yn weithwyr a werthfawrogir

Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rhestr Wirio Rhaglen Cynhwysiant Gweithredol Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Cenedlaethol
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

WCVA