1. Cyflwyniad

Wedi gwneud llawer o waith caled i lenwi'r swydd wag neu’r rôl newydd, mae angen i chi weithio yn un mor galed nawr i wneud yn siwr bod y recriwt newydd yn teimlo’n gartrefol, yn barod i gyfrannu'n llawn a sicrhau ei fod am aros yn eich busnes.

Bydd y wybodaeth yn yr adran hon yn eich helpu i:

  • adnabod y manteision Cynefino effeithiol
  • deall yr hyn yw Cynefino..... a’r hyn nad ydyw
  • nodi'r pethau allweddol i ymdrin â hwy wrth gynllunio cyfnod Cynefino cyflogeion newydd
  • datblygu eich Rhestr Wirio Cynefino eich hun
  • ystyried effeithiolrwydd eich gweithdrefnau Cynefino eich hun

2. Manteision Cynefino

Mae'r mwyafrif o gyflogwyr yn deall gwerth ymgartrefu cyflogai newydd yn ei rôl gyda rhaglen gynefino drefnus.  Mae cynefino yn rhan hanfodol o gyflogi cyflogai newydd.  P'un a ydych chi'n berchennog cwmni bach, pennaeth adran mewn sefydliad mwy, rhan o dîm adnoddau dynol, neu reolwr llinell / goruchwyliwr mae nifer o resymau allweddol dros gynnal y cyfnod cynefino yn effeithiol:

  • Mae'n lleihau'r amser i gyflogai newydd ddod yn effeithiol.
  • Mae'n helpu i ddatblygu perthynas waith gyda chydweithwyr.
  • Mae'n debygol o wella cymhelliant y cyflogai newydd a lleihau cyfraddau trosiant.
  • Mae'n dechrau cyflwyno'r cysyniad o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ym meddyliau'r cyflogai a'r sefydliad.

Cofiwch:  Nid yw cynefino i ddechreuwyr newydd yn unig.  Efallai bydd angen i staff sy'n newid swyddi neu’n dychwelyd i'r gwaith fynd trwy broses gynefino neu ailgyfarwyddo.

3. Beth mae Cynefino'n ei olygu?

Yr hyn yw cynefino ... a’r hyn nad ydyw

  • yn bartneriaeth rhwng cyflogai newydd, rheolwr llinell, AD a phobl allweddol yn eich busnes, ac nid cyfrifoldeb AD yn unig.
  • yn ymwneud â sicrhau bod y cyflogai newydd yn deall nodau, amcanion ac allbynnau cyffredinol y busnes, ac nid dim ond deall ei rôl ei hun, tasgau, gweithdrefnau gweithredu safonol, ac ati.
  • cyfle i'r cyflogai ddeall gwerthoedd a diwylliant eich busnes, ac nid yw’n flwch i’w dicio sy’n llawn rheolau, rheoliadau a pholisïau i'w cyfathrebu i'r cyflogai.
  • proses barhaus hyd at a chan gynnwys cwblhau'r cyfnod prawf, ac nid yn unig rhestr wirio o weithgareddau ydyw i'w cynnal ar ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth.

4. Cynllunio eich Cynefino

Mae’r meysydd allweddol i'w cwmpasu, a phryd, fel arfer yn dilyn chwech cam:

Cam 1 - Cyn i’r cyflogai ddechrau

Anfonwch wybodaeth ddefnyddiol am eich sefydliad at y cyflogai a pharatowch eu lle gwaith.

Cam 2 - Diwrnod cyntaf

Darparwch wybodaeth a chyflwyniadau allweddol.

Cam 3 - Wythnos gyntaf

Darparwch wybodaeth fwy manwl ar y sefydliad ac ar ei systemau a’i phrosesau.

Cam 4 - Mis cyntaf

Gwiriwch y cyflogai yn rheolaidd a rhowch adborth.

Cam 5 - Tair mis

Cynhaliwch wiriad interim ar berfformiad ac anghenion hyfforddi eich cyflogai.

Cam 6 - Chwe mis

Cwblhewch asesiad diwedd y cyfnod prawf.

Gweler ein Canllaw Cam wrth Gam yma

5. Datblygu eich Rhestr Wirio Cynefino

Bydd drafftio rhestr wirio yn eich helpu i:

  • Gadw trefn ar bethau a gwneud yn siŵr nad ydych yn methu unrhyw gamau pwysig.
  • Nodi pwy arall sydd angen cymryd rhan ac i ddirprwyo tasgau.
  • Sicrhau y bodlonir gofynion cyfreithiol a / neu reoliadol.
  • Ddilyn cynnydd a sicrhau bod y cyfnod cynefino wed ’i gwblhau.
  • Cynnal cynefino cyson ar gyfer holl cyflogeion newydd a’r rhai sy’n newid rolau.

Gweler ein templed enghreifftiol Rhestr Wirio Cynefino yma.  Nid yw'n gynhwysfawr ac fe'ch anogir i ddefnyddio hyn fel sail ar gyfer datblygu eich dull wedi’i deilwra eich hun.

6. Pa mor effeithiol yw eich Cynefino?

Dylai cyflogwr edrych yn ôl yn rheolaidd ar sut mae cyflogeion newydd wedi ymgartrefu.  Dylai nodi ble maent yn rhagori, yn cael anhawster neu'n colli diddordeb, a lle y gellid gwneud gwelliannau.  Meddyliwch am y canlynol:

  • Edrychwch yn ôl ar sut y mae cyflogeion newydd yn perfformio ar y camau tri mis a chwe mis.  A oedd swm a maint eu gwaith yn cwrdd â thargedau?  Os na, sut y gellid eu datblygu yn gyflymach?
  • A oedd unrhyw broblemau ymgartrefu neu berthynas yn ystod cyfnodau cynnar y gyflogaeth a sut y gellid fod wedi rhagweld a goresgyn y rhain?
  • Erbyn 12 mis, ac yn eu hadolygiad / arfarniad perfformiad llawn cyntaf, a oedd y cyflogai newydd yn cynhyrchu'r canlyniadau a ddisgwylir ganddo ar y cam hwnnw?
  • A ydych wedi gofyn i gyflogeion am adborth ar ddiwedd eu cyfnod cynefino?  Beth oedd yn gweithio iddyn nhw a sut yn eu barn hwy y gellid cynnal y cynefino yn fwy effeithiol?
  • Beth yw'ch cyfraddau trosiant o ran cyflogeion newydd yn ystod y 3/6/12 mis cyntaf?  Ystyriwch gynnal cyfweliadau ymadael i ddarganfod y rhesymau.
  • Os ydych wedi recriwtio nifer o bobl, beth am drefnu aduniad i ddechreuwyr newydd dros y 12 mis diwethaf i rannu eu profiadau o gynefino gyda chi.

Am fwy o wybodaeth ar Gynefino ewch i ACAS (Saesneg) http://www.acas.org.uk/media/pdf/r/b/Starting_staff_-__induction_Nov.pdf

Cronfa Wybodaeth Sgiliau