Eva Build

 

Mae EvaBuild wedi’i leoli yn y Drenewydd ym Mhowys ac mae’n darparu gwaith paratoi tir a pheirianwaith sifil pwrpasol i brosiectau adeiladu yn lleol ac ar draws y DU. Fel busnes, maen nhw’n wynebu prinder dirfawr o geisiadau am swyddi gan weithwyr profiadol, ac yn cefnogi’r ymgyrch mewn ymdrech i fynd i’r afael â’r broblem.

Mae Martin Moore, 60 o’r Drenewydd yn fforman ac yn weithiwr paratoi’r tir gydag EvaBuild. Ymunodd â’r cwmni yn 2011 ar ôl treulio 40 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, ac mae’n meddu ar gyfoeth o brofiad, gwybodaeth a sgiliau.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr EvaBuild, Nick Evans, “Pan fyddwn ni’n sôn am brinder sgiliau yng Nghymru, mae’n hawdd iawn ystyried mai’r ateb yw hyfforddi pobl ifanc. Mae’r hyfforddiant hwnnw’n hanfodol, ond rhan o’r stori yn unig yw hynny.

“Mae pobl fel Martin yn wirioneddol brin yn ein diwydiant ni, ond mae angen gwirioneddol amdanynt. Maen nhw wedi gweithio yn y maes ers degawdau ac yn meddu ar sgiliau a phrofiad amhrisiadwy, moeseg gwaith anhygoel, a ffordd o ddelio â heriau sy’n eu gwneud nhw’n werth eu halen. Mae ganddynt wybodaeth i’w throsglwyddo i weddill y tîm, yn enwedig y bobl ifanc fydd yn eu holynu.

“Pan ymgeisiodd Martin am swydd gyda ni, roedden ni’n gwybod y byddai’n gwneud cyfraniad mawr i’r busnes. Mae’n meddu ar ystod o sgiliau sy’n anodd eu caffael ac sy’n deillio o flynyddoedd o brofiad yn y maes.”

Hyfforddodd Martin fel briciwr 40 mlynedd yn ôl, ac mae wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu byth oddi ar hynny. Mae’n dweud ei fod wedi troi ei law at bopeth, o osod draeniau i osod ymylon palmant, a’i fod wedi dysgu drwy wylio a gweithio gydag eraill.

“Mae’n fater o wynebu heriau a dod o hyd i atebion,” ychwanega Martin. “Rwy’n dal i ddysgu cymaint o hyd, ac yn ychwanegu at y sgiliau rwyf wedi eu datblygu dros y 40 mlynedd diwethaf. Rydych chi’n cyfarfod rhywun yn y gweithle sydd wedi meddwl am ffordd wahanol o wneud rhywbeth, mabwysiadu hynny eich hun a’i rannu gyda’r tîm.

“Mae’n waith corfforol caled, ond does gen i ddim bwriad i ymddeol yn fuan. Mae’r gwaith yn fy nghadw i’n iach a heini, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac rwy’n dal i fwynhau’r holl broses adeiladu, o dyllu a gosod sylfeini i’r boddhad o weld y gwaith gorffenedig. Mae boddhad rhyfeddol mewn creu pethau fydd yn para – gadael eich marc drwy adeiladu pethau a fydd yn dal yno ymhell ar ôl eich amser chi.”