Pedal Power

Pedal Power yw darparwr gwasanaeth beicio mwya’r DU, gydag 1,600 o aelodau - 98% yn anabl – yn defnyddio ei wasanaethau, sy’n cynnwys llogi a thrwsio beics.

Gall defnyddwyr ddewis o blith 140 o gerbydau o safle’r cwmni ym Mhontcanna, gan gynnwys 40 math o feiciau, beiciau wedi’u haddasu’n arbennig, go-certi a cheir padlo. Mae sesiynau hyfforddi neu sesiynau grŵp hefyd ar gael yng nghanol prydferthwch Parc Bute.

Meddai Sian Donovan, cyfarwyddwr Pedal Power: “Rydyn ni’n cael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu llawer o bobl rhag beicio, fel bod pawb yn gallu mwynhau hynny. Pan nad yw’r tywydd ar ei orau yn y gaeaf, rydyn ni hefyd yn cynnal grŵp canu i’r rhai sy’n mwynhau’r elfen gymdeithasol o feicio gweddill y flwyddyn.

Dywedodd Sian fod aelod hynaf yr elusen hyd yma yn 92 oed. “Roedd ganddi glefyd Parkinson ac eisiau dal ati i feicio, felly fe wnaethom ni addasu beic iddi. Roedd aelod arall yn ei 60au wrthi’n gwella ar ôl cael strôc. Cafodd ei roi mewn coma am ddyddiau, ac roedd yn gallu mynd mas ar feic tair olwyn gyda’i ofalwr. Roedd yr elusen wedi’i helpu i gerdded unwaith eto, meddai.”

Dywedodd Sian, sy’n  60 oed, fod yr ethos hollgynhwysol yn ymestyn ledled gweithlu o 24 o staff cyflogedig a 60 o wirfoddolwyr egnïol, lle mae 25% o’r gweithwyr dros eu hanner cant. Mae swyddog cyllid 61 oed yr elusen yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos, ac mae oriau hyblyg ar gael i bawb.

“Rydyn ni’n cyflogi pobl o bob oed ac yn ceisio trefnu’r gwaith o amgylch eu bywydau,” meddai Sian. “Rydyn ni’n amrywio a chyfnewid ein shifftiau byth a hefyd. Mae gan rai o’n staff hŷn broblemau iechyd, ac felly angen gweithio diwrnodau byrrach, felly rydyn ni’n gadael iddyn nhw amrywio eu horiau.

“Mae hi mor bwysig cefnogi pobl hŷn i weithio am gyn hired ag y maen nhw’n hoffi ac yn gallu. Yr un fath ag ymarfer corff, mae gweithio yn gallu gwneud byd o les i iechyd meddwl.

“Mae pobl hŷn yn gaffaeliad i’n gweithle. Mae ganddyn nhw brofiadau bywyd sy’n golygu eu bod nhw’n ddelfrydol i helpu’r holl bobl wahanol sy’n dod i ddefnyddio ein gwasanaethau, a deall eu hanghenion nhw.”

Mae Tony Hendrickson, 54 oed o Dreganna, wedi bod yn gweithio i’r elusen am flwyddyn ers cael ei ddiswyddo o’i waith blaenorol. Fel beiciwr brwd, dywedodd iddo gael ei ddenu gan y cwmni oherwydd ei werthoedd cynhwysol.

Meddai Tony: “Mae pawb yn teimlo’n gyfforddus braf yma. Nid oedran mae Pedal Power yn ei weld – ond yr unigolyn. Mae cael gweithlu amrywiol yn gwneud cymaint o synnwyr os ydych chi eisiau cynrychioli’r boblogaeth.”

Mae gan Tony fab 10 oed, ac mae’n dilyn cwrs gradd mewn Busnes gyda’r Brifysgol Agored, felly mae’r elusen yn caniatáu iddo weithio oriau hyblyg o amgylch ei deulu a’i astudiaethau.

“Mae cael gweithlu o bob oed yn creu awyrgylch o barch – rydyn ni’n cyfathrebu’n dda ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd,” ychwanegodd.

“Mae rhai o’r staff iau yn gwybod am ffyrdd cyflym o wneud pethau – dw i wedi dysgu sut i drwsio ambell beth mewn dim o dro, er enghraifft.

“Efallai bod aelodau iau o'r staff yn awyddus i hyrwyddo’r hyn rydyn ni’n ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol, a ninnau’n eu hatgoffa nhw bod pethau fel posteri a phostio taflenni drwy’r drysau lawn mor bwysig i ddenu pobl hŷn.

“Nid mater o ffordd well o wneud pethau yw hi – ond sut gall ffyrdd gwahanol o weithio ategu ei gilydd.”