Delwedd

Stori Delwedd

Mae Delwedd yn gwmni dylunio gwefannau wedi’i leoli yng Nghaernarfon. Mae’n fusnes teuluol a ddechreuodd fasnachu yn 1998. Mae’r tîm wedi tyfu’n raddol ers ymgorffori’r busnes fel cwmni cyfyngedig ym mis Hydref 2016.

A hithau’n berchennog busnes bach, rhaid i’r Cyfarwyddwr Ceri Garrod wisgo sawl het ac wrth i’w busnes dyfu roedd hi’n benderfynol bod ei gweithwyr yn cael eu trin yn deg. “Roedden ni am sicrhau bod ein polisïau’n deg i’n gweithwyr gan wybod ein bod ni bob amser yn gwneud y peth cywir.”

Cyngor arbenigol

“Clywsom am y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) a’u hyb cyfreithiol sy’n llawn dogfennau templed y gallwch chi eu teilwra i’ch busnes. O’n safbwynt ni, roedd yn llawn polisïau cyflogaeth a llawlyfrau defnyddiol i gyflogwyr ac roedd hynny wedi ein helpu i siapio ein prosesau adnoddau dynol.” 

“Rydyn ni’n brysur iawn bob dydd yn gweithio i’r cwmni felly mae amser yn aml yn brin. Mae gallu cael gafael ar ddogfennau parod sydd wedi’u hysgrifennu’n dda wedi arbed amser ac arian i ni.  Fel cyflogwyr, mae’n braf gwybod fod cyngor arbenigol wrth law bob amser naill ai dros y ffôn neu ar-lein.

Tawelwch Meddwl

Ar gyfer un o’r gweithwyr, Casi Roberts, roedd hynny’n golygu tawelwch meddwl. “Mae gwybod bod y polisïau hyn ar gael os oes eu hangen yn golygu fy mod yn gwybod lle i chwilio os oes gen i gwestiwn am unrhyw beth. Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nhrin yn dda a bod y cwmni wedi gwneud ei orau i sicrhau bod popeth yn hollol agored a theg.

Manteisiodd y tîm yn Delwedd ar y cyngor cyfreithiol arbenigol gan yr FSB ond roedd mwy o fanteision na hynny o fod yn aelod o’r Ffederasiwn:

“Mae bod yn aelod o’r FSB wedi ein helpu i ddatblygu proffil ein busnes ac wedi cynnig cyfleoedd i rwydweithio. Gwnaethom gyrraedd rhestr fer am wobr ar gyfer ein gwaith pro-bono ac mae hynny wedi creu argraff ar ein darpar gleientiaid. Mae’n wych gwybod bod yr FSB yna i’n helpu os oes angen cyngor neu gymorth arnom neu i gwrdd â busnesau eraill mewn sefyllfa debyg.