Gwella eich Busnes
Wrth i'ch busnes ddechrau tyfu, gallwch fanteisio ar amrywiaeth ehangach o sgiliau i ddatblygu eich arbenigedd o ran arwain a rheoli i ddygymod â'r broses o newid ac ehangu
Mae rhedeg busnes sefydlog a chynnal ei lwyddiant yn her fawr sy'n gofyn am reoli medrus a brwdfrydig ar bob lefel.
Meddyliwch sut gallai eich busnes weithredu'n fwy effeithlon ac effeithiol, drwy ddatblygu a gwella sgiliau eich gweithwyr cyflogedig. Gall hyd yn oed camau bach yn y maes hwn gyfrannu at wella eich cynhyrchiant a'ch canlyniadau.
Drwy adnewyddu a gwella sgiliau eich rheolwyr a'ch staff presennol, byddwch yn ysgogi'r hyder a'r brwdfrydedd i gadw eich busnes i symud yn y cyfeiriad cywir.
Er mwyn cynnal llwyddiant a sicrhau eich lle yn y farchnad, mae angen stoc o ddoniau newydd arnoch i gryfhau eich tîm. Drwy ystod eang o raglenni, ein nod yw gwneud y broses o gyflogi staff newydd a'u hyfforddi, yn enwedig pobl ifanc, yn syml ac yn fforddiadwy, fel eich bod bob amser yn cynnal ac yn gwella eich tîm ac yn helpu'ch busnes i fod yn fwy cystadleuol.
Manteision canolbwyntio ar sgiliau:
- byddwch yn cyflawni eich amcanion busnes
- byddwch yn teimlo'n fwy hyderus wrth gystadlu am gontractau newydd
- byddwch yn cadw ar y blaen i gystadleuwyr
- byddwch yn sicrhau dyfodol eich busnes
- byddwch yn cryfhau eich enw da
Y ddarpariaeth sydd ar gael
Mae’r cymorth a’r arian sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant yn sylweddol a gall fod yn anodd ei ddeall
I'ch helpu, dyma grynodeb ohono.
Pa bethau allwch chi eu hystyried i helpu i wella'ch busnes?
Gwella sgiliau'ch gweithlu'n barhaus yn ôl anghenion parhaus neu gyfnewidiol y busnes trwy:
- Werthuso unrhyw hyfforddiant a roddir er mwyn canfod a yw wedi cael effaith gadarnhaol ar sgiliau ac ymddygiad eich pobl.
- Cynnwys proses sy'n hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ymysg eich staff. A oes gennych raglenni penodol megis hyfforddi neu fentora a all gefnogi a meithrin y sgiliau sydd gan eich busnes?
- Bod â phroses briodol i werthuso perfformiad a chael adborth gan eich gweithwyr sy’n canfod cryfderau ac arbenigedd eich pobl a hefyd yn eu helpu i wella mewn meysydd datblygiad pellach.
Gall datblygu system o gynllunio ar gyfer olyniaeth a datblygiad staff fod yn fwy cost-effeithiol i'ch busnes o gymharu â'r gwariant sy'n gysylltiedig â recriwtio gweithwyr newydd yn lle rhai sy'n chwilio am ragolygon gwell mewn man arall. Gweithiwch allan sut i ganfod y potensial y tu mewn i'ch busnes. Datblygwch eich pobl a pharatowch nhw i ysgwyddo cyfrifoldebau newydd a all roi ysgogiad a boddhad iddynt. Hyfforddwch a thriniwch eich pobl yn dda, gan roi cyfleoedd iddynt ar yr adegau iawn, mae nhw'n debygol o aros gyda chi. Mae cadw talent yn eich busnes yn bwysig er mwyn i chi wneud yn fawr o'r potensial a gwerth eich pobl yn awr ac yn y dyfodol.
Gall adolygu a gwella eich arferion busnes helpu i ganfod a yw unrhyw un o'ch systemau bechall wedi dyddio, neu a yw unrhyw brosesau'n mynd yn llai effeithlon. Gall hyn hefyd fod yn gysylltiedig â sgiliau eich pobl. Ydych chi'n gwirio ansawdd eich prosesau busnes? Ydych chi'n cadw i fyny gyda hyn sy'n newydd mewn technoleg neu gyfryngau cyfathrebu? Ydy'ch staff yn teimlo y gallan nhw gynnig awgrymiadau ynghylch y ffordd y gwneir pethau? A oes diwylliant o welliant parhaus?
Edrychwch drwy rai ffyrdd y gallwch wella ymgysylltiad gweithwyr:
Mynd ati i ymgysylltu â'ch cadwyn gyflenwi
Gall sicrhau partneriaeth weithio gref â'ch cyflenwyr gefnogi gwelliannau yn eich sefydliad chithau. Gall perthnasoedd busnes â chadwyni cyflenwi amrywio o rai agos a chydweithredol i rai trafodaethol i rai ar sail anghenion yn unig. Fodd bynnag, gall gwybod bod gan eich cyflenwr ymagwedd da at hyfforddiant a datblygu sgiliau wella ansawdd y gwasanaeth a gewch oddi wrthynt. Mae'n ddefnyddiol gael gwybod pa ymagwedd sydd gan eich cyflenwyr ar gyfer hyfforddi eu staff. Gallech gael gwybod hyn cyn contractio gyda hwy, gan nodi pwysigrwydd datblygu sgiliau. Efallai hefyd gallwch gydweithredu ar hyfforddiant neu rannu gwybodaeth am arferion da sydd gennych. Mae gwneud y bartneriaeth mor effeithiol â phosibl yn llesol i'ch dau.
Rheolaeth
Gall gwneud rhagor i cryfhau sgiliau rheoli a mireinio chraffter busnes eich helpu i adnabod a delio â'r heriau y bydd eich busnes yn wynebu yn y dyfodol. Gall rhai o'r rhain cynnwys:
- denu'r bobl iawn i weithio i chi
- sicrhau gwasanaeth o ansawdd da ar bob adeg, a gwybod sut i wella yn yr hyn rydych yn ei wneud
- sicrhau fod gan eich gweithlu y gallu a'r sgiliau i gwrdd â gofynion ddyfodol cystadleuol
Edrychwch drwy ein rhaglenni ar Arweinyddiaeth i gael gwybod pa cymorth sydd ar gael.
Canfod eich Bwlch Sgiliau
Y bwlch sgiliau yw'r term a defnyddi'r yn aml at y gymhariaeth rhwng perfformiad gwirioneddol eich pobl a'u gwir botensial. Mae hyn hefyd yn cael effaith ar y lefelau perfformiad a ddymunir yn eich busnes.
Mae cyflawni dadansoddiad o anghenion hyfforddiant neu sgiliau yn eich helpu i ganfod eich bwlch sgiliau. Rhowch gynnig ar ein Proffil Sgiliau i ddechrau ar eich taith. Mae wedi'i gynllunio i'ch helpu i ganfod yn gyflym y meysydd sgiliau gall fod angen sylw.
Os dewiswch, caiff eich proffil ei ddadansoddi gan un o'n cynghorwyr busnes a fydd yn cysylltu â chi i drafod eich adroddiad a'r canlyniadau.