Festival UK*2022

Llywodraeth Cymru/Cymru Greadigol yn Cyflwyno Gŵyl y DU*2022

Galwad agored i dalent Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg, y Celfyddydau a'r Diwydiannau Creadigol i gyfuno eu creadigrwydd a datblygu syniadau mawr ar gyfer Cymru.

Oes gennych chi syniadau mawr?

Mae Gŵyl y DU*2022 yn gyfle gwych i roi’ch syniadau ar waith, ac yn gyfle hefyd i gael cyllid ar gyfer prosiect lle byddwch yn cydweithredu ag eraill ar draws Cymru a/neu’r DU.

Beth yw Gŵyl y DU*2022?

Mae Gŵyl y DU*2022 yn ddigwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ledled y DU i ddathlu’r gallu i greu ac i arloesi. Gan gydweithio â gwledydd eraill y DU, bydd yr ŵyl yn arddangos yr agweddau gorau ar ein sectorau celfyddydau, diwylliant, treftadaeth, dylunio a STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Sut mae gwneud cais?

Bydd y trefnwyr yn chwilio am ddeg prosiect eithriadol ar raddfa fawr i ymgysylltu â’r cyhoedd ac a fydd yn tynnu sylw’r byd at allu’r DU i arloesi ac i greu.

Yn ystod y cam cyntaf, bydd timau creadigol yn cael gwahoddiad i ddatgan bod ganddynt ddiddordeb mewn cyflwyno prosiect ymchwil a datblygu a fydd yn cael ei ariannu ac a fydd yn gweithredu mewn ffordd ysgogol ac uchelgeisiol i ymgysylltu â’r cyhoedd, gan wneud hynny ar raddfa fyd-eang.

Dyddiadau allweddol

  • 9 Medi - lansio Gŵyl y DU*2022 gan roi gwahoddiad agored am syniadau.
  • 16 Hydref - cyfnod datgan diddordeb yn cau.
  • Canol mis Tachwedd - y DU yn cyhoeddi 30 o gonsortia ymchwil a datblygu llwyddiannus.

I gael rhagor o fanylion

ewch i  www.festival2022.uk

Dywedodd Martin Green, Prif Swyddog Creadigol Festival UK* 2022: “Mae Festival UK* 2022 yn ymwneud â gweithio gyda chydweithwyr o feysydd creadigol gwahanol, i ganfod cydweithwyr newydd a dathlu doniau a dangynrychiolir. Y nod yw dathliad cenedlaethol o'n holl greadigrwydd.  Arddangosiad heb ei ail o'r rôl hanfodol, hudolus y gall creadigrwydd ei chwarae i wneud bywyd yn well."