Hygyrchedd
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y safle hwn yn hygyrch i bawb. Rydym wedi anelu at wneud i’r safle hwn gadw at y canllawiau canlynol:
- XHTML 1.0 Trosiannol
- CSS 2.0
- WAI A
Er mwyn dilysu ein cod, rydym wedi defnyddio Bobby 5.0.
"Mae Bobby yn offeryn meddalwedd cynhwysfawr ar gyfer hygyrchedd y we, sydd wedi’i gynllunio i helpu i ddatgelu ac atgyweirio rhwystrau rhag hygyrchedd ac annog cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd presennol. Mae Bobby yn profi am gydymffurfiad â safonau llywodraeth, gan gynnwys Adran 508 Llywodraeth Unol Daleithiau America. Mae’n cynnig awgrymiadau wedi’u blaenoriaethu, sydd wedi’u seilio ar Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We sy’n cael eu darparu gan Fenter Hygyrchedd y We Consortiwm y We Fyd-Eang (W3C). Mae Bobby yn caniatáu i ddatblygwyr brofi tudalennau gwe a chynhyrchu adroddiadau crynodol sy’n amlygu problemau hygyrchedd critigol cyn postio cynnwys ar weinyddwyr byw."
Bysyll hygyrchedd
I’ch helpu i fynd o gwmpas y safle mae bysyll hygyrchedd wedi’u creu ar bob un o’r prif ddolenni a gallwch eu hactifadu drwy ddefnyddio’r bysyll isod.
Os nad ydych chi’n gwybod sut i ddefnyddio bysell hygyrchedd dilynwch y cyfarwyddiadau isod :-
Porwyr ar gyfer cyfrifiaduron personol
- Firefox 2+: Daliwch y bysyll ALT a SHIFT i lawr a phwyswch ar rif y fysell hygyrchedd
- Safari: Daliwch y fysell ALT i lawr a phwyswch ar rif y fysell hygyrchedd
- Chrome: Daliwch y fysell ALT i lawr a phwyswch ar rif y fysell hygyrchedd
- Opera 9+: Daliwch y bysyll SHIFT ac ESC i lawr a bydd rhestr o’r bysyll hygyrchedd yn ymddangos
- Internet Explorer 5+: Daliwch y fysell ALT i lawr a phwyswch ar y fysell hygyrchedd yna rhyddhewch bob bysell a phwyso ENTER
Porwyr ar gyfer Macs
- Firefox: Daliwch y bysyll CTRL ac OPTION i lawr a phwyswch ar rif y fysell hygyrchedd
- Safari: Daliwch y bysyll CTRL ac OPTION i lawr a phwyswch ar rif y fysell hygyrchedd
- Chrome: Daliwch y bysyll CTRL ac OPTION i lawr a phwyswch ar rif y fysell hygyrchedd
- Opera 9+: Daliwch y bysyll SHIFT ac ESC i lawr a bydd rhestr o’r bysyll hygyrchedd yn ymddangos