Hysbysiad Preifatrwydd Ffurflen Mynegi Diddordeb y Cyfrif Dysgu Personol
Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ar 6 Chwefror 2020.
Mae’ch preifatrwydd yn bwysig i Fusnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy'n nodi pam rydym yn casglu a defnyddio’ch gwybodaeth bersonol chi . Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau bod eich data personol yn cael eu prosesu'n deg ac yn gyfreithlon ac mewn ffordd dryloyw.
1. Byddwch cystal â chymryd eiliad i ddarllen drwy ein harferion preifatrwydd. Pam ein bod yn casglu a phrosesu'r data a gesglir
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolwr Data ar gyfer y data personol a darparwch ar Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb mewn Peilot Cyfrif Dysgu Personol Porth Sgiliau Busnes Cymru. Yn unol â'n gorchwyl cyhoeddus, bydd y data'n cael eu defnyddio i'ch adnabod ac darparu'r cymorth mwyaf priodol ichi gan ein partneriaid cyflenwi fel y sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru.
2. Pwy fydd â mynediad i'ch data:
- Rhennir y data hwn â sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru sy'n gysylltiedig â chynnwys Ffurflen EOI Peilot Cyfrif Dysgu Personol Porth Sgiliau Busnes Cymru.
- Bydd gan dimau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei system TGCh fynediad at yr wybodaeth a gesglir. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio’ch manylion mewn unrhyw fodd.
3. Am ba hyd y cedwir eich manylion:
Caiff eich manylion eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 6 flynedd fel rhan o'n hyfforddiant a'n hadolygiadau ansawdd parhaus.
4. Eich hawliau.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gyrchu'r data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddal arnoch chi;
- ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- i (dan rai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
- ar gyfer (mewn rhai amgylchiadau) i'ch data gael ei 'ddileu'
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Cyswllt Cwsmer
Tŷ Wycliffe
Lôn y Dŵr
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Gwefan: https://ico.org.uk
I gael help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, yna cysylltwch â'n Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni .
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
5. Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth Chi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn galluogi'r cyhoedd i ofyn i gael gweld yr wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth amdanoch chi fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn cysylltu â chi i wybod eich barn ynglŷn â hyn cyn datgelu unrhyw ddata personol wrth ymateb i gais o'r fath.
6. Newidiadau i'r polisi hwn
Caiff Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yma a dônt yn weithredol ar unwaith. Pan fo newidiadau yn cael eu gwneud i'r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi drwy'r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar eich cyfer yn eich cyfrif i roi cyfle ichi ddarllen y fersiwn newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth
Cyfeiriad post:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru