Hysbysiad Preifatrwydd - Prentisiaethau proffil busnes

 

Hysbysiad Preifatrwydd Ffurflen Proffil Cwmni ar gyfer Prentisiaethau

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru. Yn unol â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) rydym wedi datblygu Hysbysiad Preifatrwydd sy’n datgan pam ein bod yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael eu prosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw. Byddwch cystal â darllen yr wybodaeth isod er mwyn dod yn gyfarwydd â’n trefniadau o ran preifatrwydd.

  1. Pam rydyn ni’n casglu data ac yn prosesu’r data a gasglwn 

    Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol rydych chi’n ei ddarparu ar y Ffurflen Proffil Cwmni ar gyfer Prentisiaethau. Yn unol â’n tasg gyhoeddus, bydd y data’n cael eu defnyddio i’ch adnabod chi ac i ddarparu’r gefnogaeth fwyaf addas i chi gan ein partneriaid cyflenwi a chan y rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant Dysgu Seiliedig ar Waith sydd wedi’u contractio gennym.
  2. Pwy fydd yn cael mynediad at eich data: 
  • Mae’r data hyn yn cael eu rhannu â sefydliadau sydd wedi’u contractio’n gan Lywodraeth Cymru yn unswydd ar gyfer cyflenwi Dysgu Seiliedig ar Waith Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â chynnwys y Ffurflenni Proffil Cwmni.
  • Bydd gan dimau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei system TGCh fynediad at yr wybodaeth a gesglir. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio’ch manylion mewn unrhyw fodd. 
  1. Am ba hyd y bydd eich manylion yn cael eu cadw

    Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau am hyd at 6 mlynedd, yn unol â pholisi cadw data Llywodraeth Cymru, fel rhan o’n proses barhaus o adolygu hyfforddiant ac ansawdd.
  2. Eich hawliau

    O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:
  • gweld yr wybodaeth bersonol y mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw amdanoch; 
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwybodaeth anghywir yn y data hynny;
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau);
  • gofyn i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau);
  • gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Gwefan: https://ico.org.uk

5. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a’r wybodaeth a gedwir amdanoch 

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth rydych yn ei rhoi yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ateb cais o’r fath. 

6. Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi hwn unrhyw bryd. Bydd newidiadau’n cael eu cyhoeddi yma ac maent yn dod i rym ar unwaith. Pan fo’r polisi hwn yn cael ei newid, byddwn yn cysylltu â chi, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a gofrestrwyd gennym ar gyfer eich cyfrif, er mwyn i chi allu darllen y fersiwn newydd.