Rhaglen Trawsnewid Sgiliau Murco
Mae angen gweithlu medrus ar fusnesau llwyddiannus i wireddu eu dyheadau o ran tyfu a gwneud elw.
Bydd Rhaglen Trawsnewid Sgiliau Murco yn eich helpu i ddiogelu a thyfu eich busnes a manteisio ar farchnadoedd neu sectorau newydd.
Am beth mae’r holl beth?
Mae Rhaglen Trawsnewid Sgiliau Murco yn becyn o gyngor a chyllid ar gyfer sgiliau arbenigol i'ch helpu i amrywio a datblygu sylfaen sgiliau eich busnes.
Sut mae’n gweithio?
Mae’n syml iawn. Cwblhewch y meini prawf cymhwysedd a'i hanfon at dfesrm@wales.gsi.gov.uk.
Os yw'r meini prawf cymhwyster wedi'u bodloni, bydd cynghorydd yn cael ei benodi i'ch helpu i baratoi ffurflen gais. Bydd y cynghorydd yn gweithio gyda chi i:
- asesu anghenion hyfforddi a datblygu eich busnes
- baratoi eich cynllun datblygu sgiliau pwrpasol
- ganfod ffynonellau hyfforddi priodol
- fanteisio ar amrywiaeth o raglenni neu gyllid.
Bydd panel annibynnol yn adolygu eich cais. Os yw eich cais yn llwyddiannus byddwn yn cynnig cyngor a chyllid i dalu eich costau hyfforddi cymwys.
Pwy sy’n gymwys?
Mae Rhaglen Trawsnewid Sgiliau Murco ar gael i gwmnïau sydd:
- wedi colli contractau o ganlyniad uniongyrchol i gau safle Murco
- wedi'u lleoli, yn creu neu'n cadw swyddi yn ardal Sir Benfro
- yn cyflogi o leiaf 5 gweithiwr
- yn gallu diogelu swyddi o leiaf 5 aelod o staff
- yn gallu dangos bod angen clir i wella gallu'r gweithlu er mwyn cynhyrchu contractau newydd neu symud i farchnadoedd neu sectorau newydd.
Pa fath o hyfforddiant all gael ei gefnogi?
- Hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar wireddu'r nod a'r canlyniadau a nodir yn eich cais
- Hyfforddiant sy'n cyrraedd safonau diwydiannol cymeradwy cyffredinol
- Mae cwmnïau'n cael eu hannog, os yw'n bosib, i ddilyn rhaglenni hyfforddi achrededig neu fodiwlau sy'n arwain at gymwysterau.
Pa hyfforddiant ni ellir ei gefnogi?
- Hyfforddiant statudol a rheoleiddiol, sy'n gyfrifoldeb y cyflogwr, oherwydd y rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol Ewropeaidd sydd mewn grym
- Cynadleddau, rhwydweithio a hyfforddiant drwy benwythnosau profiadau "awyr agored".
Sut mae hyn o fudd i chi?
- Gwasanaeth rhad ac am ddim Cynghorydd Datblygu'r Gweithlu (dim ond os yw'r trothwyon lleiaf wedi'u bodloni)
- Cyfraniad ariannol o hyd at £10,000 i bob cwmni (hyd at uchafswm o £3,500 y gweithiwr) tuag at gostau hyfforddi cymwys. Gall costau hyfforddi cymwys cynnwys costau cyflog staff yn ystod y cyfnod hyfforddi
- Cyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cymru tuag at gostau hyfforddi cymwys (mae’r lefel o gymorth yn amodol ar gyllidebau a Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol Ewropeaidd sydd mewn grym pan gyflwynir cais):
- 250+ o weithwyr: 50%
- 50-249 o weithwyr: 60%
- 1-49 o weithwyr: 70%
- Bydd cymorth ar gael hefyd i fanteisio ar raglenni i ateb anghenion busnes, gan gynnwys:
- cymorth busnes arbenigol wedi'i deilwra i gwmnïau'r sector adeiladu, neu'r rhai sy'n cyflenwi'r sector adeiladu drwy Ddyfodol Adeiladu Cymru
- ariannu cyrsiau rhan-amser a chyrsiau byr sydd ar gael trwy rwydwaith rhanbarthol o ddarparwyr addysg
- dysgu seiliedig ar waith gan gynnwys Prentisiaethau, Hyfforddiaethau, y Rhaglen Barod am Waith a Thwf Swyddi Cymru
- gymhorthdal cyflogwyr ReAct i recriwtio unigolion sydd wedi cael rhybudd diswyddo
- mentora a digwyddiadau Busnes Cymru sy'n berthnasol i'ch busnes.
MAE'N BRYD hyfforddi ar gyfer yfory
Cwblhewch y meini prawf cymhwysedd (isod) a'i hanfon at yr Yr Adran Addysg a Sgiliau at dfesrm@wales.gsi.gov.uk.
Am unrhyw ymholiadau arall cysylltwch â dfesrm@wales.gsi.gov.uk.