Atgyfnerthu eich busnes
Adeiladu busnes llwyddiannus yn gyflawniad sylweddol. Ennill achrediad yn ffordd wych i atgyfnerthu eich busnes ac yn cydnabod eich cyflawniadau.
Bydd hefyd yn sicrhau eich bod yn cynnal eich momentwm.
Manteision achredu eich busnes
Yn ol yr ymchwil, mae busnesau achrededig:
- Yn fwy cynaliadwy
- Yn fwy proffidiol
- Yn gallu cystadlu'n well
- Yn rheoli newid yn well
Cymru Iach ar Waith: Y Safon Iechyd Corfforaethol a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach
Menter i gyflogwyr wella iechyd y gweithlu a'u sefydliad.
Gall busnesau gael mynediad i gymorth a chyngor i ddatblygu mentrau iechyd, llesiant a diogelwch yn y gweithle drwy'r Safon Iechyd Corfforaethol a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach.
Dyfernir y Safon Iechyd Corfforaethol i fusnesau sy'n cyflogi mwy na 50 o bobl, a bwriedir Gwobr Iechyd y Gweithle Bach ar gyfer gweithleoedd sy’n cyflogi llai na 50 o bobl.
Mae'r rhaglen wobrau'n anelu at wella iechyd a llesiant yn y gwaith, lleihau effaith afiechyd yn y gwaith a hybu ymyrryd yn gynnar i adsefydlu'r rhai sydd wedi mynd yn sâl, neu sydd wedi'u hanafu, trwy weithio gyda chyflogwyr. Bydd hyn hefyd yn helpu i gynyddu perfformiad a chynhyrchiant y sefydliad.
Mae'r gwobrau'n cael eu cyflwyno i sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector sy'n rhoi arferion ar waith i hybu iechyd a llesiant eu gweithwyr. Mae'r gwasanaeth di-dâl hwn yn cael ei ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fel mentrau eraill sy'n ymwneud ag ansawdd y gweithle, rhaglen raddedig ydyw ac mae sefydliadau'n cael eu hailasesu bob tair blynedd. Mae'r gwaith i gyflawni'r safon yn gyson â'r model rhagoriaeth mewn busnes, sy'n gyrru ansawdd a datblygiad sefydliadol mewn llawer o sefydliadau.
Caiff eich busnes/ sefydliad ei asesu am y Gwobrau gan banel bach o aseswyr annibynnol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth: Cymru Iach ar Waith
Y wefan Cymru Iach ar Waith.
Cynnal Cymru / Sustain Wales
Cynnal Cymru – Sustain Wales yw’r sefydliad sy’n arwain y maes mewn datblygu cynaliadwy yng Nghymru a sy'n cynnig Gwobrau Academi Cynaliadwy blynyddol. Mae'r Gwobrau'n cydnabod pobl anhygoel, prosiectau a mentrau sy'n cyfrannu at y saith Nod Llesiant Cenedlaethol a'r pum Ffordd o Weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn #gwella sut rydych chi'n gweithio
Mae Buddsoddwyr mewn Pobl, y safon ar gyfer rheoli pobl, yn darparu fframwaith ar gyfer busnesau i nodi arferion da a gwneud gwelliannau. Mae'n defnyddio dulliau hyblyg o asesu sut mae busnesau yn ymgysylltu â phobl ac yn eu cynnwys yn y broses o gyflawni eu hamcanion.
Mae Buddsoddwyr mewn Pobl wedi bod yn asesu sefydliadau ers 28 mlynedd ac mae'n gweithio mewn mwy na 75 o wledydd. Mae dyfarniad achredu yn para am dair blynedd neu, i fusnesau â hyd at 50 o gyflogeion, mae achrediad o flwyddyn yn opsiwn.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am Buddsoddwyr mewn Pobl