METaL
Mae METaL yn darparu dysgu seiliedig ar waith deunyddiau a gweithgynhyrchu o ansawdd uchel i'r sector gweithgynhyrchu ledled Cymru. Nod y prosiect Addysg, Hyfforddiant a Dysgu am Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL) yw lleihau'r bylchau sgiliau yn y sector trwy wella sgiliau gweithwyr. Mae METaL yn cynnig cyrsiau technegol am £300 - £350 mewn amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys: Cyflwyniad i Beirianneg Deunyddiau, Technoleg Gweithgynhyrchu, Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD), Delweddu Uwch, Meteleg Ymarferol ac ati.
Dyma'r manteision i fusnesau
Bydd uwchsgilio'ch staff gyda'r cyrsiau hyn yn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o'r wyddoniaeth y tu ôl i'r broses weithgynhyrchu. Gyda'r wybodaeth ychwanegol hon bydd staff yn fwy parod i:
- Wella perfformiad gweithredol - bydd gan staff mwy o fewnwelediad i agweddau technegol eich busnes.
- Wella datrys problemau - gyda mwy o wybodaeth am y wyddoniaeth y tu ôl i'r broses gall helpu i adnabod yr hyn sydd wrth wraidd problemau technegol.
- Gyflawni gwelliant parhaus i’r prosesau o fewn eich busnes.
Pa gymorth sydd ar gael i chi?
Bydd eich busnes yn cael cefnogaeth staff Prifysgol Abertawe a fydd yn gweithio'n agos gyda chi i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn berthnasol i'ch angen eich busnes ac i chi gael y gwerth mwyaf o'r cyrsiau.
Dyma eich ymrwymiad chi
Costau’r cyrsiau yw £300 - £350 y cwrs. Mae busnesau angen ymrwymo amser staff o'u gwaith i gymryd rhan (cwrs 3 diwrnod).
A yw eich busnes chi'n gymwys?
Mae busnesau ledled Cymru yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen METaL. Ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni. Ariennir METaL yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhestr Wirio Rhaglen | Cronfeydd yr UE yng Nghymru | |
---|---|---|
Ardal Cyflenwi | Cymru | |
Statws | Yn fyw | |
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? | Ydi | |
Arweinydd y Rhaglen |
Llywodraeth Cymru |