METaL

Mae METaL yn darparu dysgu seiliedig ar waith deunyddiau a gweithgynhyrchu o ansawdd uchel i'r sector gweithgynhyrchu ledled Cymru. Nod y prosiect Addysg, Hyfforddiant a Dysgu am Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL) yw lleihau'r bylchau sgiliau yn y sector trwy wella sgiliau gweithwyr. Mae METaL yn cynnig cyrsiau technegol am £300 - £350 mewn amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys: Cyflwyniad i Beirianneg Deunyddiau, Technoleg Gweithgynhyrchu, Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD), Delweddu Uwch, Meteleg Ymarferol ac ati.

Dyma'r manteision i fusnesau

Bydd uwchsgilio'ch staff gyda'r cyrsiau hyn yn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o'r wyddoniaeth y tu ôl i'r broses weithgynhyrchu.  Gyda'r wybodaeth ychwanegol hon bydd staff yn fwy parod i:

  • Wella perfformiad gweithredol - bydd gan staff mwy o fewnwelediad i agweddau technegol eich busnes.
  • Wella datrys problemau - gyda mwy o wybodaeth am y wyddoniaeth y tu ôl i'r broses gall helpu i adnabod yr hyn sydd wrth wraidd problemau technegol.
  • Gyflawni gwelliant parhaus i’r prosesau o fewn eich busnes.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Bydd eich busnes yn cael cefnogaeth staff Prifysgol Abertawe a fydd yn gweithio'n agos gyda chi i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn berthnasol i'ch angen eich busnes ac i chi gael y gwerth mwyaf o'r cyrsiau.

Dyma eich ymrwymiad chi

Costau’r cyrsiau yw £300 - £350 y cwrs. Mae busnesau angen ymrwymo amser staff o'u gwaith i gymryd rhan (cwrs 3 diwrnod).

A yw eich busnes chi'n gymwys?

Mae busnesau ledled Cymru yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen METaL. Ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni. Ariennir METaL yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Cymru
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru