1. Cyflwyniad
Yn rhy aml mae busnesau yn dewis rheolwyr am eu cymhwysedd technegol neu gyfredol ac yna yn tybio y byddant yn dod yn rheolwyr / arweinwyr da yn awtomatig. Heb gymorth a datblygiad digonol, gall hyn arwain at rwystredigaeth i'r rheolwr / arweinydd sydd newydd ei benodi ac i'r bobl y mae bellach yn gyfrifol amdanynt.
Mae'r adran ar Ddatblygu Sgiliau yn canolbwyntio'n bennaf ar yr hyfforddiant sydd ei angen i alluogi cyflogeion i gyflawni eu swydd gyfredol. Mae Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Datblygiad Gyrfa yn edrych ar yr heriau tymor hwy sy'n wynebu eich busnes a'ch cyflogeion mwyaf talentog.
Diffiniad o Reolwr: Unrhyw un sy'n wneud pethau trwy bobl eraill
Bydd y wybodaeth yn yr adran hon yn eich helpu i:
- ddeall y gwahaniaethau rhwng datblygu arweinyddiaeth a datblygu rheolaeth
- adnabod y gwahaniaethau rhwng datblygu gyrfa a datblygu sgiliau
- nodi y mathau o gyfleoedd sydd ar gael i gefnogi anghenion datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth ac uchelgais gyrfa eich cyflogeion
2. Datblygu Arweinyddiaeth a Datblygu Rheolaeth
Mae datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth yn brosesau strwythuredig i wella sgiliau, cymwyseddau a/neu wybodaeth, trwy ddulliau dysgu ffurfiol neu anffurfiol, dros gyfnod o amser. Bydd hyn o fudd i berfformiad yr unigolyn a’r sefydliad.
Fodd bynnag, gellir gwneud y gwahaniaeth canlynol:
- Mae rheolaeth yn cynnwys cynllunio, trefnu, cydlynu a gweithredu gwaith, adnoddau a cyflogeion. Mae'r sgiliau sy angen eu datblygu yn cynnwys rheoli amser, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, cyfathrebu, rheoli prosiectau, arloesi, yn ogystal â gwybodaeth benodol i'r diwydiant. Dyma ffocws y rhan fwyaf o weithgareddau datblygu rheolaeth.
- Mae datblygu arweinyddiaeth yn fwy cysylltiedig ag agwedd ymgysylltu cyflogeion y rôl, megis ysbrydoli pobl, creu ymdeimlad o bwrpas a rennir, arwain newid, grymuso timau o fewn y sefydliad. Mae'r cysyniad o ddatblygu arweinyddiaeth yn fwy amwys, ac yn destun trafod; mae ei werth a'i lwyddiant felly yn aml yn fwy anodd i'w mesur.
3. Datblygiad Gyrfa
Mae datblygiad gyrfa yn wahanol i ddatblygu sgiliau a hyfforddiant gan fod iddo ffocws ehangach, amserlen hirach, a chwmpas ehangach.
Nod hyfforddiant yw gwella perfformiad; nod datblygiad yw cyfoethogi a chyflogeion mwy galluog.
Mae llawer o dystiolaeth i awgrymu bod gwaith boddhaus a heriol yn rhoi mwy o gymhelliant i gyflogeion talentog nag arian. Felly, dylid ystyried datblygiad gyrfa fel blaenoriaeth os yw'ch busnes am gadw ei gyflogeion mwyaf talentog.
Mae datblygiad gyrfa yn golygu rhoi cyfle i gyflogeion dyfu yn bersonol ac yn broffesiynol.
4. Cyfleoedd ar gyfer datblygu
Bydd darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol y anogi staff i wella perfformiad eu hunain ac eraill a gall helpu i gyflawni nodau ac amcanion eich sefydliad.
Gall gefnogi cyfrifoldebau ehangach megis cyfreithiol, cymunedol / cymdeithasol, amgylcheddol ac amrywiaeth.
Mae nifer o gyfleoedd ar gael i ddatblygu potensial rheolaeth ac arweinyddiaeth eich staff a’u gyrfaoedd.
5. Cyrsiau a Chymwysterau
Mae'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) a Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) yn cynnig cymwysterau i arweinwyr tîm hyd at uwch reolwyr. Mae'r rhan fwyaf o golegau lleol yn cynnig cymwysterau ILM neu CMI. Mae opsiynau dysgu o bell hefyd ar gael ar gyfer llawer o'r cymwysterau hyn.
Mae rhaglenni datblygu rheolaeth ac arweinyddiaeth strwythuredig gyda modiwlau wedi'u teilwra i anghenion busnesau Cymru yn cynnwys:
- Academi Busnes Gogledd Cymru (NWBA). Nod y rhaglen yw hybu twf busnes a chystadleurwydd yng Ngogledd Cymru trwy ddarparu rhaglen wedi’i theilwra i ddatblygu a gwella sgiliau arweinyddiaeth ar draws y rhanbarth.
- Arweinyddiaeth 20Twenty yn Ysgol Rheolaeth Caerdydd. Cynlluniwyd y rhaglen i roi i reolwyr, arweinwyr a pherchnogion y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni effeithlonrwydd, cynllunio strategaethau twf a gweithredu nodau ehangu.
- Arweinyddiaeth ION, darperir ar y cyd gan brifysgolion Abertawe a Bangor. Cynlluniwyd i helpu perchnogion, cyfarwyddwyr, arweinwyr tîm a rheolwyr sy'n gweithio yn y sector preifat a'r trydydd sector i wella eu sgiliau, tyfu busnes cynaliadwy a chyfoethogi bywydau eu cyflogeion.
- Prentisiaethau Lefel Uwch. Galluogi busnesau Cymru i gwrdd â bylchau sgiliau trwy ddarparu hyfforddiant a chymwysterau i staff. Cynigir darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith lleoedd ar fframweithiau NVQ Lefel 4 cymeradwy mewn nifer o sectorau.
Mae llawer o ddarparwyr hyfforddiant masnachol, yn ogystal â cholegau lleol, yn cynnig cyrsiau hyfforddi rheolaeth fer ar bynciau megis sgiliau cyfathrebu, rheoli amser, adeiladu tîm, ac ati.
6. Coetsio a Mentora
Defnyddir coetsio a mentora weithiau'n gyfnewidiol ond mae gwahaniaethau allweddol rhyngddynt fel y dangosir isod:
Coetsio
- Mae coetsiwr yn gofyn cwestiynau ac yn gosod heriau
- Efallai bod gan y coetsiwr rywfaint o wybodaeth ond does dim rhaid iddo fod yn arbenigwr
- Mae'r berthynas am gyfnod penodol o amser ac mae'n cynnwys cyfarfodydd strwythuredig a gynlluniwyd
- Mae ffocws ar wella perfformiad rheolaeth neu arweinyddiaeth yn y gwaith (yn seiliedig ar dasgau)
- Y peth gorau yw bod rhywun ar wahân i reolwr llinell y sawl sy’n cael ei goetsio yn ei gynnal
Mentora
- Mae mentor yn arwain, yn ateb cwestiynau, yn rhoi cyngor
- Mae'r mentor fel arfer yn arbenigwr yn y maes neu yn eich busnes
- Gall y berthynas barhau dros gyfnod hir - mae cyfarfodydd yn digwydd yn ôl yr angen
- Mae’r ffocws ar ddatblygiad gyrfa a personol (yn seiliedig ar berthynas)
- Gall y rheolwr ei gynnal.
Am fwy o wybodaeth ar weithredu Coetsio a Mentro ewch i CIPD (Saesneg a bydd angen cofrestru) https://www.cipd.co.uk/knowledge/fundamentals/people/development/coaching-mentoring-factsheet#
7. Cysgodi yn y Gweithle / Swydd
Mae cysgodi ar gyfer datblygu arweinyddiaeth yn golygu gweithio gyda rheolwr uwch a all helpu'r person sy'n ei gysgodi ef neu hi i ddysgu agweddau newydd sy'n gysylltiedig â'r rôl, yr heriau, a’r sgiliau ac ymddygiadau sy'n ofynnol. Gall y dull hwn ategu dysgu mwy ffurfiol ac mae darpar arweinwyr yn cael profiad uniongyrchol o'r hyn sydd ei angen i fod yn arweinydd.
Yn yr un modd, pan fo datblygiad gyrfa yn ffocws, gall cysgodi swydd fod yn un o'r opsiynau ar gael i dyfu talent yn y dyfodol yn eich cwmni. Gall cysgodi swydd helpu i gael ymdeimlad gwell o opsiynau sydd ar gael a'r cymwyseddau angenrheidiol fydd eu hangen yn y dyfodol. Gall cyflogai gysgodi cyflogeion uwch mewn swyddi / swyddogaethau amrywiol i gael gwell syniad am yr hyn sydd ei angen i adeiladu gyrfa yno.
Gall cysgodi swyddi gynnwys 'diwrnod ym mywyd ...' neu gallai fod yn ddull mwy strwythuredig lle mae cysgodi yn digwydd dros gyfnod amser penodedig neu ar gyfer digwyddiadau penodol e.e. cyfarfodydd uwch reolwyr neu brosiect.
8. Secondiadau
Secondiad yw symud neu fenthyg cyflogai dros dro i ran arall o'r busnes (secondiad mewnol) neu i sefydliad arall (secondiad allanol). Gall cyflogeion gael eu secondio i sefydliadau sy'n amrywio o fusnesau masnachol mawr neu sefydliadau sector cyhoeddus i grwpiau lleol bach, ysgolion ac elusennau.
Gallai secondiad mewnol fod yn gyfle unigryw i ddysgu am y gwahanol arferion gwaith a’r strwythur sefydliadol. Yn y tymor hir, bydd y secondiad yn helpu i ddangos hyblygrwydd ac addasrwydd unigolyn, ac arwain at gyfleoedd eraill.
Gallai enghreifftiau o secondiadau allanol gynnwys:
- Rheolwyr yn cael eu secondio i’r sector gwirfoddol neu sefydliad arall i ennill sgiliau newydd mewn rheoli prosiectau a phrofiad o arwain mewn gwahanol gyd-destunau sefydliadol.
- Gweision sifil yn cael eu secondio i ddiwydiant i gael profiad o'r sector preifat.
- Arbenigwyr technegol yn ennill profiad o'r gadwyn gyflenwi trwy secondiad i'w cyflenwyr neu gwsmeriaid.
Gall secondiadau barhau am unrhyw gyfnod o amser a gallai ddarparu cyfleoedd datblygu personol a phroffesiynol sylweddol i'r person dan sylw. Ar gyfer y sefydliad gall y manteision gynnwys gwell cynllunio olyniaeth, llenwi bylchau mewn sgiliau tymor byr neu absenoldebau, neu wella perthynas â chwsmeriaid neu gyflenwyr strategol.
Am fwy o wybodaeth a thaflen ffeithiau defnyddiol ar Secondiadau ewch i CIPD (Saesneg a bydd angen cofrestru) https://www.cipd.co.uk/knowledge/fundamentals/people/development/coachi…
9. Dyddlyfr Myfyriol
Gall cadw cofnod rheolaidd o brofiadau yn y gweithle, yn enwedig rhai heriol, a'r hyn a ddysgwyd fod yn ddull anffurfiol pwerus o ddatblygu sgiliau personol a phroffesiynol. Gall y math yma o ddysgu chwarae rhan arwyddocaol wrth baratoi pobl ar bob lefel, ond yn enwedig rheolwyr, ar gyfer heriau yn y dyfodol.
Mae ymchwil gan Ysgol Fusnes Harvard wedi canfod bod arweinwyr rhagorol yn cymryd amser i fyfyrio. Ond y gwir yw bod bywydau gwaith y rhan fwyaf o bobl yn symud yn gyflym, ac yn brysur, ac nid ydynt yn caniatáu amser i wrando ar eu hunain. Dyma rhai camau i'w cymryd:
- Prynwch dyddlyfr.
- Ymrwymwch i fyfyrio.
- Dewch o hyd i le tawel.
- Dewiswch yr amser cywir.
- Ysgrifennwch beth bynnag sy'n dod i'r meddwl.
- Peidiwch â rhannu eich dyddlyfr gydag unrhyw un - oni bai eich bod eisiau gwneud.
Gweler ein Canllaw i Eich Dyddlyfr Myfyriol yma
10. Gwirfoddoli
Gwirfoddoli â chymorth cyflogwr yw lle mae sefydliadau'n rhoi cyfle i gyflogeion wirfoddoli yn ystod oriau gwaith. Mae hyn yn cynnwys amser i ffwrdd â thâl ar gyfer gwirfoddoli unigol neu mewn rhaglen a ddatblygwyd gan y cyflogwr fel digwyddiad her tîm neu drefniant parhaus gyda phartner cymunedol.
- Manteision i gyflogwyr. Mae rhai o'r manteision clir i gyflogwyr yn cynnwys y cyswllt rhwng gwirfoddoli a datblygu cyflogeion, a'r cyfle i ymgysylltu â chyflogeion wrth wella cyfathrebu a dealltwriaeth o'r gymuned leol. Yn ogystal, gall cyflogwyr hefyd adeiladu timau cryfach a gwella morâl staff wrth wella enw da'r brand yn gyffredinol, a dangos ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i'r gymuned leol neu'r gymdeithas ehangach.
- Manteision i gyflogeion. Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i gyflogeion ddatblygu sgiliau allweddol mewn meysydd megis gweithio mewn tîm, gwytnwch, coetsio, arwain a chreadigrwydd. Mae gwirfoddoli hefyd yn rhoi cyfle i gyflogeion adeiladu cysylltiadau â'u cymunedau lleol a rhoi rhywbeth yn ôl wrth weithio ar faterion y maent yn teimlo'n angerddol amdanynt.
- Manteision i'r gymuned. Yn aml mae gan sefydliadau'r sector cymunedol a gwirfoddol gyllidebau isel a gwerthfawrogir gwirfoddolwyr brwdfrydig gyda sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth arbenigol. Mae rhaglenni gwirfoddoli â chymorth cyflogwr yn gweithio'n dda pan mae gan gyflogwyr a gwirfoddolwyr berthynas agored, fuddiol a llawn parch gyda’r sefydliad y maen nhw am ei gefnogi.
11. Mathau o gyfleoedd Gwirfoddoli
Mae gan unigolion ddiddordebau a chymhellion gwahanol ar gyfer gwirfoddoli a byddant yn cael eu denu i wahanol fathau o weithgareddau gwirfoddoli. Mae rhaglen gwirfoddoli dda yn canolbwyntio ar gyflogwyr sy'n rhoi cyfle i unigolion fynd ar drywydd cyfleoedd gwirfoddoli yn ystod amser gwaith.
Gallant hefyd gynnwys partneriaethau gyda'r mudiadau cymunedol a gwirfoddol i roi cyfle i gyflogeion ar bob lefel wirfoddoli a chyfrannu at newid cymdeithasol. Gall cyflogeion ddewis defnyddio eu hamser gwirfoddol i gefnogi elusennau neu achosion o'u dewis eu hunain. Gall cyfleoedd gwirfoddoli fod yn rhai tymor byr neu hir.
Cyfleoedd gwirfoddoli unwaith ac am byth neu dymor byr sydd fel arfer yn cynnwys tasgau byr a phenodol sy'n hawdd eu cychwyn a'u cwblhau. Mae nifer o gyfleoedd gwirfoddoli tymor byr o'r fath ar gael yn amrywio o weithgareddau unigol i adeiladu tîm. Enghreifftiau yw cyflwyno sgwrs gyrfaoedd mewn ysgolion, rhedeg gweithdy CV neu sgiliau cyfweld, neu ddiwrnodau her tîm fel glanhau afonydd a pharciau.
Cyfleoedd gwirfoddoli hirdymor sy'n galluogi cyflogeion i wneud ymrwymiad cynaliadwy i gefnogi sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol trwy gymryd rhan mewn mentrau sy'n digwydd dros gyfnodau hirach. Enghreifftiau yw gweithio ar brosiectau cymunedol, neu ymgymryd â swyddi cyfrifol megis cyfrifydd sy'n helpu elusen gyda chadw llyfrau. Mae rhai pobl yn defnyddio'u sgiliau i eistedd ar fyrddau, er enghraifft fel ymddiriedolwr elusen neu lywodraethwr ysgol, yn enwedig lle mae rhai sgiliau megis cyllid, marchnata neu gynllunio busnes yn ddymunol iawn.
12. Adnoddau Ar-lein
Mae gan Wasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein Llywodraeth Cymru (BOSS) amrediad o gyrsiau ar-lein am ddim ar bynciau sy’n cynnwys:
- Coetsio i Arweinwyr
- Creu Timau Llwyddiannus
- Cyflwyniad i Reoli Prosiectau
- Cynefino Effeithiol
- Gwneud Penderfyniadau
- Llunio Cyflwyniadau Effeithiol
- Mentora Eraill yn Effeithiol
- Rheoli Absenoldeb
- Rheoli Eich Amser
- Pennu Amcanion a Monitro Perfformiad
- Ymdopi â Newid yn y Gweithle
Gellir cofrestru am ddim ac mae’n syml ar https://businesswales.gov.wales/cy/boss