1. Cyflwyniad
Rhaid i unrhyw fath o werthuso ystyried llwyddiant yr holl broses o Gynllunio’r Gweithlu hyd at Ddatblygiad Gyrfa. Mae gwerthuso llwyddiant camau unigol o'r ffordd rydych yn arwain, rheoli a datblygu eich pobl yn darparu sail ar gyfer adolygu effeithiolrwydd a gwerth eich arferion.
Dangosir amrywiaeth o fesurau yn yr adran hon.
Mae Arolwg Staff Blynyddol yn ffordd ddefnyddiol o fesur agweddau a boddhad cyflogeion yn y busnes ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys:
- Deall y busnes.
- Dealltwriaeth o’u rôl.
- Perthnasau weithio ar lefel rheolaeth llinell, tîm neu adrannol.
- Hyfforddiant a datblygiad.
- Iechyd a lles.
Am fwy o wybodaeth ar ymgysylltu â chyflogeion ewch i CIPD (Saesneg a bydd angen cofrestru) https://www.cipd.co.uk/knowledge/fundamentals/relations/engagement
Os oes gan eich cwmni nifer fawr o gyflogeion efallai y byddwch am ddefnyddio darparwr allanol i ddylunio a dadansoddi arolwg. Fel arall, gallwch chi ddylunio a dosbarthu arolygon ar raddfa fach gan ddefnyddio templedi ar-lein gan sydd ar gael yn eang.
Yn yr un modd, bydd gwerthusiadau staff neu adolygiadau perfformiad rheolaidd hefyd yn rhoi syniad i chi am lwyddiant eich strategaethau pobl.
2. Cynllunio'r Gweithlu
Y ffordd orau i fesur llwyddiant cynllunio eich gweithlu yw trwy gymharu data cyfredol a blaenorol y cwmni, gan ddadansoddi tueddiadau, newidiadau ac achosion posibl. Efallai yr hoffech edrych ar:
- Cyfraddau trosiant staff.
- Lefelau absenoldeb salwch.
- Diffygion ansawdd oherwydd camgymeriad dynol.
- Data busnes newydd / ailadroddus.
- Damweiniau yn y gwaith a damweiniau a fu bron â digwydd.
- Data ariannol (proffidioldeb, trosiant, ac ati).
- Adborth cwsmeriaid ar berfformiad staff (cadarnhaol a chwynion).
- Nifer y staff sy'n mynychu hyfforddiant.
3. Recriwtio
Gellir gwerthuso eich llwyddiant wrth recriwtio staff trwy gyfuniad o ddadansoddi data, holiaduron, grwpiau ffocws neu gyfweliadau. Efallai yr hoffech edrych ar:
- Niferoedd ymgeiswyr.
- Amrywiaeth ymgeiswyr (oed, rhyw, anabledd, lleoliad, cenedligrwydd, ac ati).
- Nifer y cynigion cyflogaeth a dderbyniwyd / a wrthodwyd.
- Adborth gan staff sydd newydd eu penodi.
- Canran y swyddi wedi'u llenwi yn fewnol i gymharu ag allanol.
- Llwyddiant ffynonellau hysbysebu, a chostau cysylltiedig.
- Cyflymder penodi ymgeiswyr llwyddiannus o'r penderfyniad cychwynnol i recriwtio.
4. Cynefino
Mae rhywfaint o'r wybodaeth a amlinellwyd yn gynharach megis diffygion ansawdd, damweiniau, cyfraddau trosiant staff yn enwedig yn y 12 mis cyntaf, yn ddangosyddion defnyddiol o lwyddiant eich proses gynefino.
Ffordd arall o gael adborth gwerthfawr ar sut y gallwch wella'r broses gynefino yw dosbarthu holiadur i staff a benodwyd yn ddiweddar.
Gweler ein templed enghreifftiol Holiadur Rhaglen Cynefino yma
5. Datblygu Sgiliau
Yn gynharach yn yr adran Datblygu Sgiliau, fe drafodwyd rhai agweddau o werthuso ar ôl i hyfforddiant a datblygiad ddigwydd.
Mae casglu adborth ar raglenni hyfforddiant penodol yn rhoi syniad o’r gwerth i'r aelod o staff yn mynychu a gellir gweld effeithiau yn y tymor byr. Bydd y gwerth bwriadedig i'r busnes yn fwy tebygol o gael ei weld yn y tymor hwy.
Gweler ein templed enghreifftiol Holiadur Rhaglen Hyfforddiant yma
Mae mesur llwyddiant eich dull hyfforddiant a datblygu yn gyffredinol ac nid yn unig digwyddiadau penodol yn helpu i benderfynu ar unrhyw newidiadau i gynlluniau yn y dyfodol.
Gall cwestiynau i'w hystyried cynnwys:
- Sut fydd dysgu yn cael ei rhoi ar waith gan staff?
- A yw’r canlyniadau a ddisgwylir wedi'u cyflawni? Os na, pam?
- A yw’r sgiliau newydd neu wedi’i ddiweddaru wedi elwa’r tîm / adran / meysydd eraill?
- A fu unrhyw fanteision busnes sylweddol?
6. Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Datblygiad Gyrfa
Yn gynharach yn yr adran hon, dangosom sut y byddai Arolygon Staff Blynyddol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol. Dylai eich arolwg gynnwys cwestiynau ynghylch arweinyddiaeth a rheolaeth, er enghraifft:
- A ydych chi'n cael adborth rheolaidd ar eich perfformiad a pha mor aml?
- A ydych chi'n cael y cyfle i wella'ch sgiliau a'ch gwybodaeth yn y gwaith?
- A ydych chi'n teimlo bod eich rheolwr yn eich cefnogi yn y gwaith?
Gall data arall sy'n gysylltiedig â recriwtio a chadw rheolwyr ddarparu dangosydd o lwyddiant eich strategaethau datblygu gyrfa a rheolaeth. Os yw rheolwyr yn mynychu gweithgareddau datblygu allanol, yna gall yr awgrymiadau ar friffiadau cyn ac ar ôl y cwrs a amlinellir yn yr adran Datblygu Sgiliau fod yn gymwys hefyd.
Gair o rybudd: Mae datblygiad rheolaeth a gyrfa yn strategaethau hirdymor. Efallai na fydd eu llwyddiant yn amlwg am nifer o flynyddoedd.