Polisi preifatrwydd

Hysbysiadau Preifatrwydd – Proffil Sgiliau Recriwtio a Hyfforddi

Diweddarwyd: Awst 2023

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n esbonio pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu’n deg ac yn gyfreithlon, ac mewn ffordd dryloyw.


Cymerwch funud i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.

 

1.    Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data sy’n cael eu casglu

Llywodraeth Cymru fydd Rheolydd Data y data personol rydych chi’n eu darparu ar y ffurflen Proffil Sgiliau. Yn unol â’n gwasanaethau Proffil Sgiliau caiff y data eu defnyddio i’ch adnabod chi ac i gysylltu â chi os gofynnir am hynnu i ddarparu’r cymorth mwyaf priodol i chi gan ein timau gwasanaeth Busnes Cymru neu/a contractwr.


2.    Pwy fydd yn gallu gweld eich data:

  • Defnyddir data a gasglwyd o'r Proffil Sgiliau gan Fusnes Cymru i ddarparu cymorth busnes a sgiliau a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â'r ystod o wasanaethau Busnes Cymru.
  • Bydd timau gwasanaeth Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei system, sy’n cefnogi’r system TG, yn gallu gweld yr wybodaeth a chesglir.  Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.

3.    Am ba mor hir caiff eich manylion Proffil Sgiliau eu cadw

Caiff eich manylion eu cadw ar ein systemau am hyd at 2 flynedd, yn unol a’n bolisi cadw, fel rhan o’n adolygiadau hyfforddi ag ansawdd. Ar ôl y cyfnod yma, bydd eich manylion a’r holl wybodaeth a ddarparwyd gennych wrth cwblhau’r Proffil Sgiliau yn cael eu dileu.


4.    Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru yn eu dal amdanoch chi;
  • mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny;
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (mewn rhai amgylchiadau);
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau);
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

I gael cymorth gydag unrhyw o’r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000 neu ddefnyddio'r ffurflen cysylltu â ni ar https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

 

5.    Eich Gwybodaeth chi a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, gall y cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei dal gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn cysylltu â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

 

6.    Newidiadau i’r polisi hwn

Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff y newidiadau eu cyhoeddi yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Os bydd y polisi hwn yn newid, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost sydd wedi’i nodi yn eich cyfrif er mwyn caniatáu i chi adolygu’r fersiwn newydd.

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost:   data.protectionofficer@llyw.cymru