Preifatrwydd

polisi preifatrwydd busnes.cymru.gov.uk

Trosolwg

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych naill ai dros y ffôn, yn bersonol neu wrth ddefnyddio gwasanaethau ar y wefan.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd gyfreithiol i warchod preifatrwydd yr holl ddata personol a data busnes a ddarperwch chi neu gynrychiolydd o’ch busnes wrth ddefnyddio gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru.  Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn egluro pa wybodaeth a allwn gasglu gennych ac at ba ddibenion y caiff ei defnyddio.  Trwy ddefnyddio gwasanaethau cymorth gwybodaeth busnes Llywodraeth Cymru, rydych yn cytuno i’r arferion data a ddisgrifir yn y polisi hwn.

Dim ond gyda’ch caniatâd fydd Llywodraeth Cymru’n casglu data personol a data busnes gennych, er enghraifft os byddwch yn cysylltu â Llinell Gymorth Busnes Cymru, yn defnyddio rhwydwaith cymorth Busnes Cymru, yn cofrestru neu’n llenwi ffurflenni ar-lein Llywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw ddata personol na data busnes yn cael ei gasglu gennych heb i chi fod yn gwybod hynny. 

Newidiadau i’r polisi hwn

Fe allai Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn unrhyw dro. Nodir y newidiadau hyn yma a byddant yn weithredol ar unwaith. Mae adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd yn golygu eich bod wastad yn ymwybodol o’r wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru’n ei chasglu, sut y bydd yn cael ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os digwydd hynny, y caiff unrhyw wybodaeth ei rhannu gydag eraill.

Pa wybodaeth a gesglir gennym ac at ba ddibenion?

 

Yn ddibynnol ar y gwasanaeth gwybodaeth neu gymorth a ddefnyddir gennych, gellid gofyn i chi ddarparu gwybodaeth, neu fe allem gasglu gwybodaeth gennych yn unol â’r eglurhad isod.

Gwybodaeth a ddarperir gennych chi i ni

Bydd Llywodraeth Cymru’n casglu ac yn prosesu data a ddarperir gennych chi at ddibenion penodol. Gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth amdanoch chi eich hun pan fyddwch yn defnyddio rhai gwasanaethau cymorth penodol, er mwyn cwblhau eich cais neu ein trafodion â chi. Fe allai gynnwys gwybodaeth bersonol megis eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post a rhif ffôn. Byddwn yn defnyddio’r data hwn i ddarparu’r wybodaeth, y cynhyrchion neu’r gwasanaethau y gofynnwch amdanynt. Fe allem fod yn cadw cofnod o unrhyw gysylltiadau rhyngom. Fe allem ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion cadw cofnodion, neu at ddibenion ystadegol, ymchwil neu ansawdd.

Byddwn ond yn cadw’r wybodaeth hon pan fydd gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny; am y cyfnod angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdanynt gennych (yn cynnwys unrhyw gyfnod cadw cyfreithiol neu yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.

O bosib, gwnawn ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i gynnig gwasanaethau lleol neu bersonol i chi, i’ch hysbysu o newidiadau i’n gwasanaeth, i ofyn eich barn ac i’n helpu ni i wella ein gwasanaethau.

Er mwyn darparu’r wybodaeth, y cynhyrchion neu’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt gennych, byddwn yn rhannu eich data yn ôl y gofyn gyda chyrff eraill - er enghraifft gyda sefydliad dosbarthu cyhoeddiadau os byddwch yn archebu cyhoeddiad, neu gyda sefydliad cymorth busnes lleol os ydych yn gofyn am gyswllt neu gymorth lleol, neu gyda’r adran, asiantaeth neu awdurdod llywodraeth perthnasol er mwyn cwblhau cais neu drafodyn.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael gwared â’ch gwybodaeth o’n cofnodion, am weld unrhyw wybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru amdanoch, ac i gywiro unrhyw anghywirdebau.

 

Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw un arall at unrhyw ddibenion eraill oni fydd angen cyfreithiol i ni wneud hynny.