Prentisiaethau gradd

Cymhwyster integredig seiliedig ar waith yw prentisiaethau gradd sy'n cyfuno cyfleoedd dysgu yn y gwaith - yn y byd go iawn - â chymhwyster addysg uwch. Bydd cyflogwyr, prifysgolion a chyrff proffesiynol yn gweithio mewn partneriaeth i ddylunio prentisiaethau gradd sydd o fudd i fyfyrwyr a hefyd i gyflogwyr.

Ansawdd wedi'i sicrhau

Mae prentisiaethau gradd yn rhan o nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y prentisiaethau lefel uchel, gan gynnwys rhai ar lefel gradd, fel y nodir yn ei chynllun prentisiaethau. Maent wedi'u cyllido'n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy CCAUC, y corff rheoleiddio addysg uwch.  Gall cyflogwyr felly fod yn hyderus y bydd prentisiaethau gradd yn ddarostyngedig i'r un mesurau sicrhau ansawdd â darpariaeth addysg uwch arall, a'u bod yn cydymffurfio â Manyleb Safonau Prentisiaeth Cymru (SASW).

Ar hyn o bryd mae prentisiaethau gradd ar gael ar lefel 6, sy'n cyfateb i radd baglor israddedig llawn, yn y meysydd blaenoriaeth canlynol:

Fe'u cynigir mewn partneriaeth â phrifysgolion yng Nghymru.

Darllenwch restr gyflawn o brifysgolion a phrentisiaethau gradd ar wefan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae'r model prentisiaethau yng Nghymru'n wahanol i'r model prentisiaethau yn Lloegr. Gall darparwyr addysg uwch yng Nghymru ddarparu prentisiaethau yn Lloegr os ydynt ar y Gofrestr Darparwyr Hyfforddiant Prentisiaeth.

Sut maen nhw'n gweithio?

Gall cyflogwyr yng Nghymru gynnig prentisiaeth gradd mewn TG, peirianneg neu weithgynhyrchu uwch drwy bartneriaeth â phrifysgol yng Nghymru. Bydd prentisiaid gradd yn ennill profiad yn y gweithle, ac ar yr un pryd yn gweithio tuag at gymhwyster lefel gradd a all hefyd gynnwys cymwysterau proffesiynol sy'n berthnasol i'r diwydiant.

Bydd prentisiaid gradd yn gyflogedig, ac yn derbyn cyflog hyd ddiwedd eu cwrs. Bydd prentisiaeth gradd yn para isafswm o dair blynedd, ac fel arfer yn para hyd at uchafswm o bum mlynedd. Bydd prentisiaid gradd yn treulio tua 20% o'u hamser yn y brifysgol a gweddill eu hamser gyda'u cyflogwr.

Gwybodaeth i gyflogwyr

Recriwtio prentis gradd

Mae hi mor hawdd recriwtio prentis gradd o blith eich gweithlu presennol, neu drwy gyflogi gweithiwr newydd, ac mae prentisiaethau gradd ar gael i bob cyflogwr yng Nghymru, waeth beth fo'i faint. Gan weithio gyda phrifysgol yng Nghymru, chi fydd yn cynllunio'r brentisiaeth gradd ar gyfer eich prentis, boed hynny yn Gymraeg neu yn Saesneg, gan olygu y bydd modd teilwra'r brentisiaeth i ganolbwyntio'n arbennig ar ofynion eich busnes.

Bydd eich prifysgol y cytuno ar y cymhwyster, ar y dulliau asesu ac ar y rhaglen waith.

Rhestr lawn o brifysgolion a phrentisiaethau gradd:

Beth yw'r costau?

Ceir dwy gost yn gysylltiedig â phrentisiaeth gradd - costau cyflog y prentis gradd a chostau ffioedd dysgu ar gyfer astudio addysg uwch. Mae'n rhaid i chi dalu'r gost gyntaf. Nid chi sy'n talu'r ail gost.

Llywodraeth Cymru sy'n talu costau'r ffioedd dysgu yn llawn.

Y manteision i gyflogwyr

Gall buddsoddi i ddatblygu eich cyflogeion drwy brentisiaethau gradd a arweinir gan y diwydiant drawsnewid eich busnes.

Gall prentisiaethau gradd:

  1. Ei gwneud hi'n bosibl cynnal hyfforddiant cost-effeithiol uchel ei werth - chi sy'n talu costau cyflog y prentis a Llywodraeth Cymru sy'n talu'r gost o astudio.
  2. Ei gwneud hi'n bosibl cymhwyso'r hyn a ddysgwyd i'r gweithle.
  3. Arwain at arloesi, mwy o gynhyrchiant, effeithlonrwydd a thwf busnes.
  4. Creu gweithlu brwdfrydig, hynod fedrus a chymwys.
  5. Datblygu sgiliau mentora a goruchwylio ymhlith eich staff.
  6. Llenwi bylchau o ran sgiliau er mwyn bodloni anghenion y presennol a'r dyfodol.
  7. Adnabod a meithrin talent er mwyn cynllunio olyniaeth.
  8. Cynnig ysgol o gyfleoedd a datblygiad gyrfaol i gefnogi a chadw eich gweithlu.
  9. Bod wedi'u cynllunio'n hyblyg i fodloni eich anghenion.

Cymorth a chefnogaeth

Os ydych chi'n newydd-ddyfodiad i'r byd prentisiaethau, gallwch gael cymorth a chefnogaeth bellach gan Gynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr drwy: