Arweinyddiaeth ION

Cyflwynir y rhaglen datblygu Arweinyddiaeth ION gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.

Lluniwyd  Arweinyddiaeth ION yn benodol i helpu perchnogion, cyfarwyddwyr, arweinwyr tîm a rheolwyr sy'n gweithio yn y sector preifat neu'r trydydd sector i wella eu sgiliau, tyfu busnesau cynaliadwy a chyfoethogi bywydau eu gweithwyr.

Y manteision i fusnesau

Yn elwa o brofiad dysgu ymarferol, mae cyfarwyddwyr a rheolwyr yn cael yr amser, y lle a'r offer i arbrofi gyda gwahanol ddulliau o arwain yn ogystal â'r cyfle i ddysgu oddi wrth ei gilydd.  Mae canlyniadau wedi dangos gall cymryd rhan mewn rhaglenni arweinyddiaeth gyflawni:

  • cynnydd amlwyg mewn trosiant (26% ar gyfartaledd)
  • creu mentrau cynaliadwy sydd a'r gallu i dyfu'n barhaus
  • arweinwyr busnes gyda gwell gwybodaeth a sgiliau
  • rhwydwaith cefnogol o arweinwyr sy'n parhau i gwrdd, rhannu syniadau a gwneud busnes gyda'i gilydd

Yn wir, soniodd nifer rhagorol o'r cynrychiolwyr (97%) bod y rhaglen wedi cael effaith sylweddol arnynt hwy a'r ffordd y maent yn gweithio.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Cefnogir y rhaglen gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae'n arwain at gymhwyster clodfawr y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, gan gynnwys aelodaeth. Mae'r rhaglen yn cynnwys 3 lefel o ddysgu: Arweinyddiaeth Cyfnod Cynnar, Datblygu Arweinyddiaeth ac Arweinyddiaeth Uwch.

Byddwch yn dysgu sut i weithredu syniadau cyfoes, strategaethau twf ac arferion gorau yn eich cwmni.  Mae'r rhaglen yn cynnwys:

  • Digwyddiad arweinyddiaeth profiadol am 2 ddiwrnod
  • Cyfres o ddosbarthiadau meistr rhyngweithiol - astudio'r 4 thema hanfodol bwysig arweinyddiaeth: arwain hunan, arwain pobl, arwain sefydliadau ac arwain twf.
  • Setiau dysgu gweithredol gyda'ch cyd-arweinwyr busnes - dysgu sut i ganfod y meysydd sydd angen eu gwella ac yn datblygu'r strategaethau gweithredu cynaliadwy i’ch caniatáu i yrru drwy newidiadau angenrheidiol.
  • Gweithredu yn y gweithle - pwyslais ar roi'r syniadau yr ydych wedi'u dysgu ar waith i'ch busnes ddod yn fwy craff a phroffidiol.
  • Dyddlyfr adlewyrchol - caniatáu i chi edrych yn fanwl ar eich dull o arwain, mynegi eich cryfderau a'ch gwendidau, a datblygu eich cynlluniau gweithredu dysgu personol.

Bydd y rhaglen yn eich helpu i ddod yn arweinydd gwell.  Cwblhewch y rhaglen gyda'r sgiliau a'r hyder i arwain, ysgogi ac ysbrydoli'r bobl o'ch cwmpas.

Eich ymrwymiad

Rhaglen datblygu arloesol yw Arweinyddiaeth ION gyda dewis o 3 dull gwahanol a’r modd i deilwra i fusnesau o unrhyw faint yn gweithredu mewn amrywiaeth eang o sectorau.

Yn dilyn y digwyddiad profiadol cychwynnol 2 ddiwrnod bydd disgwyl i chi fuddsoddi 1 diwrnod y mis dros 4, 7 neu 8 mis, yn dibynnu ar y cwrs.

Yw eich busnes yn gymwys?

Mae'r rhaglenni wedi'u llunio ar gyfer perchnogion, cyfarwyddwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb rheolwr llinell, sy'n byw neu'n gweithio yn yr Ardal Cydgyfeirio Cymru - gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

 

MAE'N AMSER i gymryd yr aweau

Galwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 603 000 neu cysylltwch â ni

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am y rhaglen trwy fynd i wefan Arweinyddiaeth ION.

Ariennir Arweinyddiaeth ION yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Prifysgolion Abertawe a Bangor