Cenedl Hyblyg 2

Bydd ein Rhaglen Fusnes yn eich helpu i ddenu, cadw a datblygu'r doniau a'r sgiliau yr ydych eu hangen i dyfu busnes llwyddiannus.  Mae'r rhaglen yn hollol bwrpasol ac wedi'i theilwra'n arbennig i gyd-fynd a'ch strategaeth fusnes drosfwaol. Ac mae wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, felly bydd y tim Cenedl Hyblyg 2 yn darparu'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim

Agile Nation 2

Dyma'r manteision i fusnesau

Cafodd y rhaglen ei llunio i sichrau eich bod yn cael y gorau gan eich adnoddau dynol, i wella enw da eich sefydliad mewn marchnad gystadleuol ac i cefnogi i ddod yn gyflogwr y mae pobl yn ei ddewis.

Bydd ein Harolwg Diwylliannol unigryw yn ein galluogi i feincnodi ymhle yr ydych ar hyn o bryd yn erbyn deg maes busnes allweddol.  Bydd yn canfod y meysydd lle gallwch wneud gwelliannau, a byd yn eich helpu i ddarpau gwell gwasanaeth i'ch cwsmeriaid, drwy ymgysylltu'n llawnach a'ch staff.

Trwy gymryd rhan yn y rhaglen, gallwch ddisgwyl:

  • I berfformiad eich busnes gael hwb a'ch sail cwsmeriaid gynyddu.
  • I'r broses o wneud penderfyniadau fod yn fwy effeithlon.
  • Gostyngiad mewn costau a risgiau.
  • Gwell enw da i'ch sefydliad.
  • I'ch gweithlu fod yn fwy cynhyrchiol, hyblych a chytun a gallu cydweithio'n agos.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Rydym yma i ddarparu rhagoriaeth i'ch gweithwyr eich cwsmeriaid a'r gymuned ehangach trwy ddatblygu a gwella eich gweithlu.  Byddwn yn gweithio gyda chi i:

  • Wella eich strategaethau adnoddau dynol fel eich bod yn fwy llwyddiannus wrth benodi staff ac yn gallu cadw eich staff yn fwy effeithiol.
  • Cydnabod a gwobrwyo cyflawniad staff, cydraddoldeb ac amrywiaeth ac annog staff i godu eu lefel o fewn eich sefydliad.
  • Adnabod a meithrin y doniau sydd wrthi'n datblygu a dangos i chi sut i gynllunio ar gyfer i dyfodol.
  • Rhoi'r sgiliau i chi i hwyluso a chynnal yr arferion gweithio modern gorau i ddiddymu ymddygiad a meddylfryd ystrydebol a/neu negyddol a allai fod yn dal eich sefydliad yn ei ol, a'i rwystro rhag tyfu.

Yn dibynnu ar anghenion penodol eich busnes, gallai'r gefnogaeth a dderbyniwch gynnwys:

  • Sefydlu gwasanaeth ymgynghori sydd wedi'i deilwra'n arbennig i ganfod camau cost effeithiol a chyraeddadwy ar gyfer creu mwy o newid mewn diwyliant, gwell ymgysylltiad a'r gweithwyr a chydbwysedd y rhywiau yn eich gweithle
  • Bod amrwywiaeth o weithdai are gael i chi mewn meysydd megis Recriwtio, Rhagfran Amymwybodol, Gweithredu Arferion Gweithio Modern a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
  • Cymorth i wneud gweithgareddau ymgysylltu a gweithwyr, yn cynnwys cynnal arolygon, hyfforddi a meincnodi.

Dyma eich ymrwymiad chi

Mae pob sefydliad yn wahanol, felly bydd y daith a gychwynnwch gyda ni'n unigryw i'ch busnes chi. Byddwn yn gwneud arolwg diwylliannol o'ch busnes ac yn rhoi adroddiad i chi am y cabfyddiadau cyffredinol.  Gyda'ch cytundeb chi, byddwn yn canfod y meysydd yr hoffech i ni weithio arnynt a byddwn yn datblygu eich Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac yn ei chyflwyno i chi.   Byddwn yn helpu hefyd lle bo'n bosibl gydag ynrhyw gamau gweithredu y cytunir arnynt.

Fel arfer gallwn gynnig gwerth hyd at 35 awr o ymgynghori i wneud y gwaith yma i chi.  Effallai hefyd y byddwn yn gallu cydnabod eich cyflawniad gyda Gwobr Cyflogwr.

A yw eich busnes chi'n gynwys?

Cyflwynwyd y rhaglen Cenedl Hyblyg 2 i helpu busnesau bach chanolig sy'n cyflogi hyd at 250 o bobl ac sy'n gweithredu yn unrhyw un o'r naw sector blaenoriaeth a bennwyd gan Llywodreath Cymru.

Dyma'r naw sector blaenoriaeth:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
  • Bwyd a Ffermio
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Gwyddorau Bywyd
  • Twristiaeth

MAE'N AMSER i gael y datblygiad sydd ei angen ar eich busnes

Ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 603 000 neu cysylltwch a ni

 

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Cymru Gyfan
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Chwarae Teg