Adeiladwch sylfeini cadarn i’ch busnes gyda phrentisiaethau

Carmarthenshire Construction Training Association Ltd. (CCTAL)

Os ydych chi am adeiladu busnes cadarn, rhaid ichi gael yr offer cywir. Mae Carmarthenshire Construction Training Association Ltd. (CCTAL) yn deall mai pobl yw’r adnodd pwysicaf sydd gan gwmni a dyna pam maen nhw’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid.

Mae prentisiaethau yn rhoi cyfle i bobl ifanc helpu i dyfu eich busnes drwy fanteisio ar eu sgiliau a’u hymroddiad. Mwy cynhyrchiol, mwy cystadleuol, mwy llwyddiannus.

Gyda chymorth Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, mae’r Rhaglen Brentisiaethau yn cynnig amrywiaeth o Brentisiaethau Sylfaen a Phrentisiaethau mewn gosod brics, gwaith coed, gwaith trydan, plastro a phlymio. 

Ers iddi gael ei sefydlu mae’r Rhaglen wedi rhagori ar y disgwyliadau, gyda 90 y cant o brentisiaethau yn cael eu cwblhau.

Dywedodd Anthony Rees, Rheolwr CCTAL: “Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc weithio gyda gwahanol gwmnïau adeiladu tra bo’r gymdeithas hefyd yn eu cyflogi.

“Roedd cyfraddau cadw a chymwysterau pobl ifanc sydd ar y brentisiaeth grefft sy’n cael ei chynnig ar hyn o bryd yn achos pryder inni. 

"Penderfynon ni fod angen dull o gydweithio a fyddai’n golygu y gallai gweithwyr CCTAL a Chyngor Sir Gaerfyrddin ddarparu hyfforddiant ar y safle yn eu busnesau a byddai Coleg Sir Gâr yn darparu hyfforddiant oddi ar y safle.”

Y llynedd, cwblhaodd 29 o 30 o brentisiaid Brentisiaeth Sylfaen a chwblhaodd 26 o 27 Brentisiaeth. Mae 23 ohonyn nhw wedi cael eu cyflogi gan gontractwyr lleol, mae tri ar gynlluniau bwrsariaeth mewn treftadaeth ac mae un wedi dod yn gontractwr hunangyflogedig.