Crëwch fwy o lwyddiant busnes gyda phrentisiaethau
BBC Cymru Wales
Mae sector y diwydiannau creadigol yn ffynnu yng Nghymru. Yn y BBC, maen nhw’n deall nad bod yn greadigol yw’r unig allwedd i lwyddo yn y dyfodol. Mae Prentisiaethau yr un mor allweddol.
Mae prentisiaethau yn gwneud busnesau yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol drwy greu cyfleoedd i bobl ifanc.
Mae gan brentisiaid yr uchelgais, y dalent a’r ymrwymiad i helpu eich busnes i fwynhau llwyddiant fel na’i welwyd o’r blaen ac i gynnal y llwyddiant hwnnw.
Cafodd Rhaglen Prentisiaeth mewn Drama ei llunio yn sgil datblygu’r cyfleuster cynhyrchu newydd yn Stiwdios Porth y Rhath ym Mae Caerdydd, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn i’r BBC.
Dywedodd Tom Morrey, Rheolwr Talent yn y BBC: “Roedd rhaid i ni ddatblygu ffordd o sicrhau ein bod ni’n gallu meithrin a datblygu gweithlu lleol lle roedd gennym ni fylchau mewn sgiliau allweddol.
“Fe wnaeth ein hadrannau cynhyrchu ystyried sawl opsiwn i fodloni ein gofynion ni ein hunain a rhai ein gweithwyr ond yr unig un oedd wir yn taro’r nod oedd y Rhaglen Brentisiaethau.
“Mae canlyniad y cynllun yn glir. Mae gan brentisiaid ffordd o ymuno â diwydiant hynod gystadleuol gan hefyd ddysgu sgiliau allweddol, ac mae ganddyn nhw ddewis arall heblaw mynd i’r brifysgol.
"Ac, mae gan y BBC weithlu creadigol a deinamig sy’n sicrhau bod cynnyrch ein rhaglenni ni’n cyrraedd y safon rydyn ni a’n cynulleidfa yn ei disgwyl.”