Datblygwch weithlu medrus gyda phrentisiaethau
GE Aviation Wales
Fel cwmni byd-eang, mae GE Aviation Wales wedi sicrhau bod ganddo weithwyr sydd â digon o sgiliau, hyfforddiant a chymwysterau.
Mae’r cwmni sydd wedi’i leoli yn Nantgarw yn buddsoddi mwy nag £1 miliwn y flwyddyn yn ei Rhaglen Brentisiaethau, sy’n cael ei goruchwylio gan aelod parhaol o staff.
Mae’r cwmni wedi cyflogi 23 o brentisiaid ac, ar hyn o bryd, mae’n cyflogi mwy na 150 o brentisiaid, interniaid a graddedigion peirianneg a busnes.
Mae’r cwmni yn gweithio gyda Choleg y Cymoedd i gynnig prentisiaethau sydd wedi cefnogi mwy na 500 o brentisiaid dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Dywedodd Andy Reid, Cydlynydd Prentisiaethau ac Arweinydd Cydwasanaethau: “Mae datblygu ein rhaglenni hyfforddiant yn bwysig iawn inni ac mae prentisiaid yn rhan hanfodol o hynny.
"Maen nhw’n creu amgylchedd deinamig, sy’n galluogi i’n busnes ddatblygu a pharhau ar flaen y gad yn y maes hwn ar lefel fyd-eang.”
Mae buddsoddiad GE yn y rhaglen, a’r cydweithio â Choleg y Cymoedd, yn talu ar ei ganfed gan fod y cwmni yn elwa ar fuddsoddi mewn prentisiaid sy’n graddio o’r rhaglen â sgiliau wedi’u teilwra ar gyfer y busnes a’r sector awyrennau.
“Mae gennym ni strwythur i gefnogi ein Rhaglen Brentisiaethau, a thrwy hyn, rydyn ni wedi datblygu cronfa o dalent ar gyfer y busnes yn y dyfodol.
“Drwy barhau i fuddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant, rydyn ni wedi rhoi hwb pellach i’n perfformiad ac wedi cynyddu cynhyrchiant.”