Peter Rushforth: Prentis Uwch y Flwyddyn
Dydi’r cigydd o fri, Peter Rushforth, ddim wedi edrych yn ôl ers iddo ddewis dilyn prentisiaeth mewn cigyddiaeth yn lle mynd i’r brifysgol.
Y llynedd, enillodd Peter, 22 oed, o Goed-llai fedal aur WorldSkills UK am gigyddiaeth a theitl Cigydd Ifanc y Flwyddyn gan y Meat Trades Journal. Bu hefyd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig mewn Cystadleuaeth Ewropeaidd i Gigyddion Ifanc a daeth yn agos at y brig yng ngornest Premier Young Butchers.
Bu’n Gigydd Ifanc Cymru hefyd ac, eleni, cafodd ysgoloriaeth gan Hybu Cig Cymru i astudio chwarter blaen cig eidion a chynhyrchion cysylltiedig yn yr Unol Daleithiau a dewiswyd ef yn Brentis Uwch y Flwyddyn gan ei ddarparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Dechreuodd Peter weithio yn Siop Fferm Swans yn Nhreuddyn, ger yr Wyddgrug, ar benwythnosau pan oedd yn 15 oed a neidiodd at y cyfle i ddilyn prentisiaeth yno pan adawodd yr ysgol gyda naw TGAU a thair Lefel A.
Symudodd ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen yn Sgiliau'r Diwydiant Cig a Dofednod i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu ac mae wedi cwblhau honno eleni.
“Mae’r Brentisiaeth Uwch wedi bod o help mawr i mi ddeall llawer mwy am y busnes,” meddai Peter sy’n cael llawer o wahoddiadau i roi arddangosiadau cigydda ym Mhrydain a thramor.
“Mae fy mhrentisiaethau wedi agor drysau ar lawer o gyfleoedd, fel cystadlaethau. Mae fy sgiliau wedi cynyddu’n aruthrol ac maen nhw wedi fy ysgogi i ddysgu rhagor o sgiliau er mwyn rhagori.