Rhowch hwb creadigol i’ch busnes gyda phrentisiaethau
Real SFX
Mae sector y diwydiannau creadigol yn ffynnu yng Nghymru. Yn Real SFX, maen nhw’n deall nad bod yn greadigol yw’r unig allwedd i lwyddo yn y dyfodol. Mae prentisiaethau yr un mor allweddol.
Mae prentisiaethau yn gwneud busnesau yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol drwy greu cyfleoedd i bobl ifanc.
Mae gan brentisiaid yr uchelgais, y dalent a’r ymrwymiad i helpu eich busnes i fwynhau llwyddiant fel na’i welwyd o’r blaen ac i gynnal y llwyddiant hwnnw.
Mae’r cwmni effeithiau arbennig hwn wedi ennill wyth gwobr BAFTA ac mae ei gleientiaid nodedig yn cynnwys Doctor Who, Sherlock, Coronation Street a Casualty.
Mae diogelwch yn hanfodol bwysig yn y maes effeithiau arbennig byw ac mae Real SFX wedi gweithio gyda’r darparwr Cyfle i ddatblygu rhaglen benodol iawn ar gyfer Prentisiaeth yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol.
Mae pedwar prentis wedi’u recriwtio dros y tair blynedd ddiwethaf ac mae mwy ohonyn nhw i ddod.
Dywedodd Carmela Hargreaves, Cyfarwyddwr y Cwmni: “Does dim cymhwyster academaidd cydnabyddedig mewn effeithiau arbennig ymarferol, felly mae ein Rhaglen Brentisiaeth ni’n cynnig platfform delfrydol ar gyfer gweithio a dysgu ar yr un pryd.”
Mewn busnes lle mae’r codau ymarfer yn llym, mae’r pwyslais yn cael ei roi i ddechrau ar ddysgu am yr offer a ddefnyddir, sut i’w cynnal a’u cadw ac arsylwi ar bobl eraill yn eu defnyddio’n briodol, cyn dechrau datblygu sgiliau ymarferol.
“Mae’r Rhaglen Brentisiaeth yn rhan greiddiol o gynllun busnes Real SFX a, gydag agoriad Pinewood Studio Wales a chymorth parhaus Llywodraeth Cymru i’r sector, mae yna botensial mawr i brentisiaid dyfu gyda ni.”