Ros Smith: Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith
Dros gyfnod o 23 blynedd o hyfforddi pobl, mae Ros Smith wedi ymroi i newid bywydau ei dysgwyr. A hithau’n diwtor arweiniol cerbydau modur gydag ACT Training yng Nghaerdydd, mae Ros yn rhan o dîm sy’n llywio ac yn cyflenwi Hyfforddeiaethau Cerbydau Modur Lefel 1 ac Ymgysylltu ar 10 safle ledled de Cymru, mewn dwy garej go iawn yn bennaf.
Er bod Ros wedi datblygu dwy ffrwd o’r cwricwlwm ar gyfer Lefel 1 ac Ymgysylltu, mae’n barod i addasu a gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod pob dysgwr ifanc yn cael y profiad gorau.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Ros wedi helpu i drawsnewid Hyfforddeiaeth Cerbydau Modur ACT; mae 96% o’r dysgwyr yn symud ymlaen at ddysgu pellach neu i waith er bod 90% yn cael ei gyfrif yn rhagorol ar raddfa genedlaethol.
Mewn amgylchedd sy’n cynnwys dynion yn bennaf, mae Ros wedi dod yn fodel rôl ardderchog ar gyfer merched ifanc sy’n dechrau yn y proffesiwn ac i fenywod ifanc trwy’r sefydliad cyfan. Mae Ros bob amser yn mynd yr ail filltir, ac mae wedi dilyn hyfforddiant mewn canfyddiad, dadansoddi trafodol, seicoieithyddiaeth a deallusrwydd emosiynol fel y gall ddeall ei dysgwyr yn well. Mae hefyd wedi meithrin cysylltiadau â chwmnïau modurdai bach a mawr sy’n cymryd ei dysgwyr erbyn hyn.