Sam Jones: Prentis Sylfaen y Flwyddyn

Byth ers i’w dad gymryd rhan mewn ‘diwrnod dod â Dad i’r ysgol’, mae Sam Jones wedi bod yn awyddus i ddilyn ôl traed ei dad a bod yn beiriannydd nwy gan helpu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel.

Er y byddai’r cyflog yn llai, gadawodd Sam, 32 oed sy’n byw yn y Graig, Pontypridd, ei swydd “ddi-ddyfodol” i fod yn brentis adeiladu a chyfnewid gyda Wales & West Utilities. Mae ei brentisiaeth mewn Gwaith Adeiladu Rhwydweithiau Nwy yn cael ei gyflenwi gan Utilise T.D.S. Limited ar gyfer Coleg Caerdydd a’r Fro.

Yn ogystal â dysgu sgiliau’r grefft, mae Sam wedi creu clawr ‘Sam y Ci Synhwyro' i'w roi ar larymau carbon monocsid mewn cartrefi i godi ymwybyddiaeth o'r lladdwr distaw. Yn ogystal, mae wedi ysgrifennu a chyflwyno papur ar y pwnc i’r Sefydliad Peirianwyr a Rheolwyr Nwy ac mae wedi siarad mewn sioeau, â chwmnïau ac yn ei gymuned ei hunan. O ganlyniad i’r gwaith hwn, a oedd yn cynnwys gwneud fideo o waith brys i drwsio pibell nwy, mae Sam wedi ennill gwobrau Llysgennad a Seren ar Gynnydd gan Wales & West Utilities.

“Doeddwn i ddim yn edrych ar fy mhrentisiaeth fel peth tymor byr achos mae arna i eisiau aros yn y diwydiant hwn am oes,” meddai. “Mae’r diwydiant yn un heriol sy’n symud yn gyflym ac yn datblygu’n barhaus ac rwy’n gweithio i gwmni sy’n mynnu cael y safonau uchaf.