Sgiliau Adeiladu Cyfle: Cyflogwr Canolig y Flwyddyn
Mae rhaglen rhannu prentisiaethau, Sgiliau Adeiladu Cyfle, wedi dangos beth y gellir ei gyflawni trwy gael agwedd agored a chydweithredol at hyfforddi prentisiaid yn y diwydiant adeiladu. Cychwynnodd y cynllun yn 2017 fel partneriaeth yn ardal Sir Gaerfyrddin ac yna datblygodd yn Fodel Rhanbarthol Cyfle ym mis Awst 2013 gyda chysylltiad â phum awdurdod lleol: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Yn Rhydaman y mae canolfan Sgiliau Adeiladu Cyfle ac mae’n cyflogi 135 o brentisiaid a rennir ledled y de-orllewin sy’n golygu ei fod yn un o’r cyflogwyr mwyaf o’i fath ym Mhrydain.
Mae Cyfle Building Skills yn cydweithio â llawer o gyflogwyr ac mae’r prentisiaid yn cael symud rhwng cwmnïau bach a mawr sy’n gweithio mewn gwahanol rannau o’r diwydiant adeiladu. Ymhlith ei fframweithiau mae gosod brics, gwaith saer, gwaith trydan, plastro, plymio, cynnal a chadw ac adnewyddu, paentio ac addurno. Mae’r prentisiaid yn dilyn cyrsiau mewn colegau rhanbarthol ac yn cael cynnig gwaith ymarferol mewn gwahanol grefftau dros gyfnod o ddwy flynedd.
Eleni, bydd Cyfle Building Skills yn cael Gwobr y Frenhines am Fenter: Arloesi. Mae’r cwmni’n ymfalchïo mewn hybu amrywiaeth yn y gweithle hefyd. Mae’r prentisiaid yn cynnwys pobl ifanc ag anableddau, aelodau o’r gymuned deithwyr a merched – roedd 10 y cant o’r rhai a dderbyniwyd yn 2016 yn ferched. Hyd yma, bu’n gweithio gyda 140 o gontractwyr bach a mawr yn y rhanbarth.