Redrow Homes

Redrow Homes


Cwmni adeiladu tai blaenllaw, Redrow, yn adeiladu llwyddiant gyda phrentisiaethau

Yn ystod y 45 mlynedd ers ei sefydlu, mae un o adeiladwyr tai mwyaf y DU wedi ymgorffori prentisiaid yn elfen allweddol o’i weithlu.

Gyda’i bencadlys yn Ewloe, mae Redrow yn meithrin pobl dalentog, eiddgar o Gymru gan eu datblygu i lenwi swyddi amlwg ym mhob rhan o’r busnes mewn adrannau sy'n amrywio o adeiladu, TG i werthu.

Mae mwy na 15% o weithwyr Redrow yn brentisiaid, yn raddedigion, neu’n hyfforddeion. Meddai Ian Randell, swyddog newydd-ddyfodiaid: “Rydym yn gweld bod prentisiaethau’n ffordd hynod gost-effeithiol o recriwtio. Rydym yn buddsoddi yn yr unigolion ond wedyn o safbwynt ehangach, mae’r cydweithwyr hyn yn tyfu gyda ni wedyn ac yn mynd ymlaen i wneud cyfraniadau sylweddol i’n busnes. Mae nifer o’r uwch swyddi o fewn y cwmni, megis rheolwyr safle, wedi eu llenwi gan unigolion a ddechreuodd fel prentisiaid eu hunain. Dyna pam yr ydym yn ystyried prentisiad yn gonglfeini ar gyfer llwyddiant parhaus y busnes pan fyddwn yn eu recriwtio.

“Mae prentisiaethau’n caniatáu i ni hyfforddi staff o’r cychwyn ac mae’r olyniaeth o dalent sydd wedi dod yn ei sgil wedi gweithio’n dda i ni fel cwmni.”

Aeth Ian ymlaen i ddweud: “Mae’r Rhaglen Brentisiaeth yn ein galluogi i deilwra sgiliau ein gweithwyr i weddu i anghenion y busnes. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n darparwyr hyfforddiant, Coleg Cambria, JTL a CITB i deilwra ein Rhaglenni Hyfforddi i helpu i lenwi’r bylchau sgiliau yn y sector. Mae gennym hefyd raglenni mewnol ar waith, felly mae’r cymorth sydd ar gael i’n prentisiaid yn ddiddiwedd.

Ar hyn o bryd mae gan Redrow 19 o brentisiaid yng Nghymru, mewn amrywiaeth o swyddi. Meddai Ian: “Yng Nghymru, mae gennym rolau ar draws ein Rhaglenni Prentisiaeth Fasnach a Rhaglenni Cymorth Busnes. Rydym hefyd yn treialu prentisiaeth gwasanaeth cwsmeriaid yr hoffem ei datblygu ymhellach yn y dyfodol. Mae ein tîm rhagweld talent bob amser yn edrych am gyfleoedd i ehangu ein defnydd o brentisiaethau mewn meysydd eraill o’r busnes, gan ddod â phobl newydd i mewn a datblygu staff presennol.

“Mae prentisiaid yn cael effaith gadarnhaol ar y cwmni, yn enwedig pan fyddwn yn gweithio ar brosiectau mawr. Maent yn dod a llais unigryw i’r timau drwy herio syniadau presennol a chynnig atebion newydd, arloesol. Maent yn magu profiad busnes ac yn ennill cymwysterau yn ogystal â symud ymlaen o fewn y busnes.

“Mae’r cyffro sydd ganddynt yn heintus; mae’r gweithlu cyfan yn elwa o gael prentisiaid. Gall y rhai sydd â mwy o brofiad yn y busnes ddod yn fentoriaid i’n prentisiaid, sy’n gweithio’n dda y ddwy ffordd gan ei fod yn rhoi cyfrifoldebau rheoli i staff presennol yn ogystal â hyfforddi talent newydd.

“Fel sefydliad mawr, mae gennym gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ac mae buddsoddi mewn pobl ifanc yn elfen bwysig o hynny. Rydym yn gweld tystiolaeth o’r manteision hyn ddydd ar ôl dydd.”

Gan ychwanegu at sylwadau Ian, meddai Anna Milne, pennaeth talent yn Redrow: “Mae prentisiaid bob amser wedi bod yn rhan gynhenid o’n gweithlu. Maent yn weithwyr gwerthfawr sy’n cyflwyno syniadau newydd a sgiliau ffres i’n timau. Rydym yn teimlo’n angerddol dros feithrin talent ifanc ac mae gennym dimau penodol sy’n gweithio ar ddarparu’r cyfleoedd hyn o fewn Redrow. Byddwn yn annog unrhyw fusnes, boed fawr neu fach, i ystyried prentisiaethau’n rhan o’u strategaeth recriwtio gan eu bod yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n cwmni.”