High Precision Wales

 

 

Stori High Precision Wales

Mae’r cwmni gweithgynhyrchu teuluol, High Precision Wales, yn dweud bod prentisiaethau yn caniatáu amser ar gyfer datblygu’r busnes ac yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn y diwydiant.

Yn gyn-brentis ei hun, dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Nicky Blake fod yna fwlch sgiliau ar gyfer peirianwyr cymwysedig yn y maes arbenigol maen nhw'n gweithio ynddo.

Mae High Precision Wales yn gweithgynhyrchu elfennau i greu cynhyrchion fel jigs, teclynnau a ffitiadau ar gyfer y diwydiant modurol ac awyrofod gan gynnwys cydrannau unigryw, ac maent yn cynnig gwasanaethau copi, peirianneg wrthdro, dylunio mewnol, lluniadu 2D a modelu 3D.

Dysgu sgiliau penodol

Meddai Nicky, 50 oed o Gaerdydd: “Dwi wedi bod yn dysgu am y swydd ers pan oeddwn i tua saith oed yn gwylio ac yn gweithio gyda fy nhad.

“Ar hyn o bryd rydym ni'n cyflogi dau brentis a chyn-brentis sydd wedi cymhwyso'n llawn ac sydd bellach yn rhedeg ei adran ei hun. Oherwydd ein bod ni'n gyflogwr mor arbenigol, dydych chi ddim yn dod o hyd i bobl sydd â'r sgiliau arbenigol hyn, felly dyma ni'n penderfynu cyflogi pobl ifanc sy'n awyddus i ddysgu a'u haddysgu nhw ein hunain. Trwy wneud hyn, rydym ni'n gallu addysgu'r sgiliau penodol iddyn nhw a gweld a ydyn nhw'n addas ar gyfer y cwmni.

“Mae'n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, rydym ni'n ceisio cadw'r sgiliau sydd gan ein haelodau staff a fydd yn ymddeol yn y dyfodol, felly mae'n rhaid i ni wneud cynlluniau nawr ar gyfer hynny. Mae'r set sgiliau ar gyfer y diwydiant hwn yn nwylo'r genhedlaeth hŷn yn bennaf felly ein cyfrifoldeb ni yw addysgu'r genhedlaeth iau a sicrhau bod ein crefft mewn dwylo diogel i'r dyfodol.

“Y brif fantais i ni fel busnes yw bod ein cyn-brentis, Sam, yn rhedeg ei adran ei hun bellach sy'n fy rhyddhau i fynd allan a denu cleientiaid newydd i'n helpu i gynyddu ein trosiant ac elw a'n galluogi i ehangu.”

Cyflawni nodau busnes

Mae Manmeet Singh, 19 oed o Tylorstown ym Mhontypridd yn brentis arobryn. Mae wrthi'n astudio am ei NVQ lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Peirianyddol.

Meddai: “Fe wnes i brofiad gwaith yn High Precision Wales ac roeddwn i wrth fy modd fy mod i'n gwneud cymaint o'r gwaith cŵl. Mae'n anodd ond dwi'n mwynhau dysgu pethau newydd bob dydd a chael y cyfrifoldeb i roi cynnig ar bethau.

“Dwi'n bwriadu gorffen fy mhrentisiaeth ac aros gyda'r cwmni a helpu i gyflawni ei amcanion busnes.”